Rhybudd melyn am wyntoedd i Gymru
19/05/2021
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym am y rhan helaeth o Gymru ddydd Iau a dydd Gwener.
Daeth y rhybudd mewn grym am 15:00 brynhawn Iau a bydd yn parhau tan 21:00 nos Wener.
Dywed y Swyddfa Dywydd y bydd yr amodau mwyaf gwyntog mewn rhannau o dde Cymru yn hwyr nos Iau.
Ond, mae'r rhybudd bellach wedi ei ymestyn i rannau o'r gogledd hefyd.
Mae gwyntoedd o hyd at 55 i 60 milltir yr awr yn bosib mewn mannau arfordirol neu fynyddig.
Mae'n bosib y bydd oedi i wasanaethau trafnidiaeth am gyfnod.
Bydd y gwyntoedd yn gostegu yn ddiweddarach ddydd Gwener.
Mae'r rhybudd bellach yn effeithio ar 19 o 22 awdurdod lleol Cymru:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Fynwy
- Torfaen
- Ynys Môn