Newyddion S4C

Cyhoeddi manylion cynllun £100m i adfer gofal iechyd wedi'r pandemig

20/05/2021
NS4C

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi manylion cynllun y Llywodraeth i adfer y system ofal wedi'r pandemig drwy fuddsoddiad gwerth £100m.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer offer, staff a thechnoleg newydd.

Fe fydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cyflwyno ffyrdd newydd o weithio i helpu byrddau iechyd i wella gwasanaethau ar draws gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal ysbyty, drwy gynyddu capasiti a lleihau amseroedd aros wrth iddynt ddechrau ailgydio mewn gofal nad yw’n frys yn dilyn y pandemig.

Dywedodd y Gweinidog byddai'n cymryd amser i adfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac o ganlyniad, byddai angen buddsoddiad a "ffordd newydd" o ddarparu gofal yng Nghymru.

Image
Senedd Cymru

"Mae ymrwymiad anhygoel gweithwyr y GIG a gofal cymdeithasol wedi ein helpu drwy’r pandemig hwn, a gallwn bellach ddechrau meddwl am y dyfodol," dywedodd.

"Rwy’n benderfynol ein bod nawr yn darparu’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i helpu’r gwasanaeth i adfer.

"Does dim amheuaeth bod y dasg sydd o’n blaenau yn un fawr, ond mae hefyd yn bwysig cydnabod bod gennym nawr gyfle gwirioneddol i drawsnewid y ffordd y caiff y gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu.

"Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i greu system iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Yn sgil y pandemig, gwelwyd technoleg newydd a ffyrdd newydd o weithio’n cael eu mabwysiadu’n gynnar ac yn gyflym, a hoffwn weld byrddau iechyd yn adeiladu ar y gwaith da hwn."

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymrwymo £1bn yn ychwanegol i gefnogi eu cynllun adfer. Ddydd Iau, nododd Eluned Morgan sut y caiff y £100m ei rannu ar draws y GIG.

Cynllun £100m i adferiad y GIG a gofal iechyd yng Nghymru:

  • Caerdydd a’r Fro £13m i gynyddu’r capasiti ar gyfer amrywiaeth o therapïau a gwasanaethau diagnosteg, gan gynnwys recriwtio staff a dwy theatr symudol newydd.
  • Powys £2.5m i drawsnewid gwasanaethau cleifion a chynyddu’r capasiti ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau.
  • Cwm Taf Morgannwg £16m i recriwtio a buddsoddi mewn capasiti llawdriniaethau a gwasanaethau diagnosteg.
  • Hywel Dda £13m i gynyddu capasiti ar gyfer gofal wedi’i drefnu, gan gynnwys ail ddylunio ysbytai, buddsoddi mewn gwasanaethau diagnosteg ac offthalmoleg.
  • Aneurin Bevan £17m ar gyfer prosiectau i gynyddu capasiti ym maes gofal wedi’i drefnu, gwasanaethau diagnosteg, therapïau ac iechyd meddwl.
  • Bae Abertawe £16m i gynyddu capasiti mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys theatrau, recriwtio ac offthalmoleg.
  • Betsi Cadwaladr £20m i gynnydd capasiti mewn gofal wedi’i drefnu, gwasanaethau canser, gwasanaethau deintyddol, diagnosteg ac endosgopi
  • Felindre £2.5m i gynyddu capasiti ar gyfer radiotherapi.

Mae arweinydd y blaid Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds AS, wedi croesawu'r cynlluniau gan ddweud bod hi'n "holl bwysig" defnyddio buddsoddiad er mwyn helpu'r GIG ailgydio mewn iechyd gofal yn dilyn y pandemig. 

"Mae'r pandemig wedi cael effaith enfawr ar restr aros y GIG, ac mae yna sawl enghraifft o driniaethau a llawdriniaethau yn cael eu gohirio neu ganslo," dywedodd. 

"Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, mae'n holl bwysig ein bod yn defnyddio'r arian i helpu gofal rhai sydd wedi'u hoedi. 

"Rydw i'n galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio ag arweinwyr y diwydiant i ddatblygu diwylliant drwy'r GIG sydd yn gynhwysol ac yn annog staff i ddysgu a datblygu. Wrth warchod amser y staff i ddysgu, nid yn unig byddwn yn cadw gweithwyr o fewn y GIG, ond hefyd fe fydden nhw'n hapus ac iachach hefyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.