Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

17/12/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Mae'n ddydd Gwener, 17 Rhagfyr, a dyma olwg ar rai o brif straeon y bore.

Clybiau nos i gau wedi'r Nadolig a chyngor newydd dros yr ŵyl

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu ail-gyflwyno cyfyngiadau newydd er mwyn ymateb i sefyllfa Covid-19.

O ddydd Llun Rhagfyr 27, bydd clybiau nos yn cael eu gorfodi i gau.

Bydd hefyd angen cadw rheolau pellhau cymdeithasol mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i amddiffyn cwsmeriaid a staff mewn lleoliadau gwaith.

Buddugoliaeth syfrdanol i'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn isetholiad - MailOnline

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill isetholiad allweddol yn Lloegr.

Cafodd yr isetholiad yng Ngogledd Sir Amwythig ei alw yn dilyn ymddiswyddiad Owen Paterson wedi iddo gael ei gyhuddo o dorri rheolau lobïo Aelodau Seneddol.

Roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif o bron i 23,000 yn dilyn Etholiad 2019 a'r Democratiaid Rhyddfrydol orffennodd yn drydydd.

Glyn Wise: O Big Brother i’r Eglwys - Heno

Mae Glyn Wise wedi trafod ei yrfa newydd yn yr Eglwys a’i weledigaeth grefyddol.

Mae’r seren realiti yn cael ei adnabod fwyaf am ei ymddangosiad yng nghyfres deledu Big Brother yn 2006, lle orffennodd yn ail.

Wrth siarad ar raglen Heno, dywedodd Glyn Wise ei fod yn gobeithio “gwneud gwahaniaeth mewn bywyd Cristnogol".

Pedwar plentyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Llundain - The Independent

Mae pedwar o blant wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Llundain.

Fe wnaeth 60 o ymladdwyr tân ac wyth injan dân ymateb i'r tân.

Cludodd yr ymladdwyr tân pedwar o blant o'r tŷ cyn cael CPR yn y fan a'r lle tan i'r Gwasanaeth Ambiwlans gyrraedd.

Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.