Buddugoliaeth syfrdanol i'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn isetholiad
17/12/2021Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill isetholiad allweddol yn Lloegr.
Cafodd yr isetholiad yng Ngogledd Sir Amwythig ei alw yn dilyn ymddiswyddiad Owen Paterson wedi iddo gael ei gyhuddo o dorri rheolau lobïo Aelodau Seneddol.
Roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif o bron i 23,000 yn dilyn Etholiad 2019 a'r Democratiaid Rhyddfrydol orffennodd yn drydydd, yn ôl MailOnline.
Roedd newid o 34.1% ym marn y bobl o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol gan olygu bod gan eu hymgeisydd Helen Morgan fwyafrif o bron i 6,000.
Daw'r fuddugoliaeth ysgubol wedi sawl wythnos anodd i Boris Johnson yng nghanol honiadau am bartïon Nadolig yn Downing Street yn ystod cyfyngiadau Covid y llynedd ac ymgais i ail-gyflwyno rhai mesurau Covid yn Lloegr a wrthwynebwyd gan tua 100 o Aelodau Seneddol Ceidwadol.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Helen Morgan (Twitter)
