Clybiau nos i gau wedi'r Nadolig a chyngor newydd dros yr ŵyl
Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu ail-gyflwyno cyfyngiadau newydd er mwyn ymateb i sefyllfa Covid-19.
O ddydd Llun Rhagfyr 27, bydd clybiau nos yn cael eu gorfodi i gau.
Bydd hefyd angen cadw rheolau pellhau cymdeithasol mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i amddiffyn cwsmeriaid a staff mewn lleoliadau gwaith.
Mewn datganiad dywedodd Y Prif Weinidog nos Iau: “Mae angen cynllun arnom i’n cadw’n ddiogel y Nadolig hwn ac mae angen mesurau cryfach i’n hamddiffyn wedyn, wrth inni baratoi ar gyfer ton fawr o heintiau Omicron.
“Mae Omicron yn fygythiad newydd i’n hiechyd a diogelwch. Dyma'r datblygiad mwyaf difrifol yn y pandemig hyd yma.”
Roedd cabinet llywodraeth Cymru wedi cyfarfod ddwywaith ddydd Iau i benderfynu sut i fynd i’r afael â’r amrywiolyn newydd, Omicron.
Fe gadarnhawyd 33 achos newydd o Omicrom yng Nghymru ddydd Iau, gan ddod â chyfanswm yr achosion i 95.
Cyfnod y Nadolig
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi pobl ledled Cymru trwy gyfnod y Nadolig, gan gynnwys lleihau ein cysylltiad ag eraill.
Mae’r llywodraeth yn galw ar bobl i ddilyn ‘pum cam syml ar gyfer Nadolig mwy diogel’.
• Derbyn eich brechiadau.
• Os ydych chi'n mynd allan i siopa Nadolig neu'n ymweld â phobl cymerwch brawf llif. Os yw'n bositif - peidiwch â mynd allan.
• Mae cyfarfod yn yr awyr agored yn well na dan do. Os ydych chi'n cyfarfod y tu mewn, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i awyru'n dda.
• Gadael amser rhwng cymdeithasu- os ydych chi wedi trefnu digwyddiadau, gadewch o leiaf diwrnod rhyngddynt.
• Pellhau cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb a golchi'ch dwylo.
Bydd y rheoliadau hefyd yn cael eu newid i gynnwys gofyniad i weithio gartref lle bynnag y bo modd.
Ychwanegodd Mark Drakeford “Eleni mae Nadolig llai yn Nadolig mwy diogel. Y lleiaf o bobl a welwn, y lleiaf o siawns sydd gennym o ddal neu drosglwyddo'r firws.
“Mwynhewch y Nadolig gyda'ch agosaf ac anwylaf - a meddyliwch am gwrdd â chylchoedd ehangach o ffrindiau pan fydd y bygythiad a achosir gan yr amrywiad Omicron wedi mynd drosodd.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd hyd at £60m ar gael i gefnogi busnesau y mae'r cyfyngiadau newydd yn effeithio arnynt.