Newyddion S4C

Glyn Wise: O Big Brother i’r Eglwys

Heno 17/12/2021

Glyn Wise: O Big Brother i’r Eglwys

Mae Glyn Wise wedi trafod ei yrfa newydd yn yr Eglwys a’i weledigaeth grefyddol.

Mae’r seren realiti yn cael ei adnabod fwyaf am ei ymddangosiad yng nghyfres deledu Big Brother yn 2006, lle orffennodd yn ail.

Wrth siarad ar raglen Heno, dywedodd Glyn Wise ei fod yn gobeithio “gwneud gwahaniaeth mewn bywyd Cristnogol.”

Mae Glyn Wise rŵan yn treulio mwyafrif o’i amser fel cynorthwyydd bugeiliol mewn Eglwys yn Llundain.

"Dwi’n byw yn Camden ar hyn o bryd. Dwi’n pastoral assistant yn Eglwys St Micheael, hynny ydi dwi’n helpu’r gweinidog yma yn yr Eglwys i wneud popeth yn barod.

“Felly, fi sy’n trefnu’r dydd, fi sy’n agor y drysa’, rhoi’r emynau i gyd allan, goleuo’r lle, er mwyn gweld sut fath o fywyd yw bywyd gweinidog."

'Llwybr iawn mewn bywyd'

Yn ôl y dyn 33 oed o Flaenau Ffestiniog, roed ei fagwraeth grefyddol wedi ei arwain “ar y llwybr iawn mewn bywyd” ond ei gyfnod yn teithio yn China sydd wedi ei ysbrydoli.

“Oni o hyd yn teimlo fy mod ar y llwybr iawn mewn bywyd, pam oni’n fach oni’n mynd i’r ysgol Sul, oni’n mynd i’r Undeb Gristnogol pam oni’n y Brifysgol.

“Ond pam nesi symud i Shanghai, ma' Cristnogaeth yn tyfu mewn ffordd anhygoel, clustiau newydd, calonnau newydd yn cael ei agor i’r newydd da sydd yn y Beibl, tra oni yno oni o hyd yn meddwl swni’n gallu dod a rhywbeth bach o be' dwi 'di ddysgu yn ôl yma i Brydain, a dyna lle dwi arni ar hyn o bryd.”

Image
S4C
Glyn Wise yn Shanghai, China

“Pam oni’n tyfu fyny oedd o yn arbennig. Oedda chdi’n mynd i Gapel bywyd ym Mlaenau Ffestiniog, oedd gen ti Anti Menna, a Anti Bet oedd yn dysgu chdi yn yr ysgol Sul. Oedd hwnna yn ddechrau arbennig.

“Ma’ mam newydd ei wneud fel blaenwr yn y Capel, oedd yn nhaid i, a’i dad o yn flaenoriaid yn y Capel hefyd. So ella bo' fi’n mynd efo’r llinell deuluol.

'Dilyn y trywydd yma'

Yn y dyfodol, mae Glyn Wise yn gobeithio “gwneud rhyw fath o wahaniaeth mewn bywyd go iawn ac mewn bywyd Cristnogol i fi”, ac mae ar hyn o bryd yn astudio Theoleg Bywyd yn y Brifysgol.

“Da ni’n astudio’r Beibl, sbïo gyda chrib man, be mae popeth yn ei olygu, dwi’n gobeithio mynd ymlaen efo hynny wedyn.”

“Mewn deng mlynedd dwi’n gobeithio fyddai wedi gwneud rhyw fath o wahaniaeth mewn bywyd go iawn ac mewn bywyd Cristnogol i fi.

“Dwi’n gobeithio byddaf yn dilyn y trywydd yma a mynd yn bellach hefo fo.

“Pam oni’n athro nesi ddysgu dau beth; un, ma’ nhw’n gorfod dy hoffi di. Dau, mae’r neges angen bod yn glir a dwi’n trio gwneud hynny ar y pwlpid.

Yn ôl Glyn Wise, mae bod yn rhan o’r Eglwys yn brofiad gwahanol iawn i fod yn seren deledu.

“Pam ti di bod ar raglen realaeth mae o i gyd amdo’ch chi fel unigolyn, ond pam ti’n yr Eglwys, ti’n rhan o deulu a ti’n colli chdi a dod yn rhywbeth mwy Cristnogol- sy’n wych. 

“Dwi byth yn credu mewn creu cynlluniau achos dwi’n credu bod ein cynllun bywyd ni wedi ei wneud yn barod ar ein cyfer ni, felly ti’n mynd gyda’r alwad.

“Dwi di cyrraedd lle, lle mae gennai ddealltwriaeth. Dychmygwch jig-so a ma’r darnau yn dod at ei gilydd, dyna lle dwi ar hyn o bryd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.