Newyddion S4C

Pedwar plentyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Llundain

The Independent 17/12/2021
Brigâd Dân Llundain

Mae pedwar o blant wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Llundain.

Fe wnaeth 60 o ymladdwyr tân ac wyth injan dân ymateb i'r tân.

Cludodd yr ymladdwyr tân pedwar o blant o'r tŷ cyn cael CPR yn y fan a'r lle tan i'r Gwasanaeth Ambiwlans gyrraedd.

Cafodd y plant eu cludo i'r ysbyty lle daeth cadarnhad eu bod wedi marw.

Y gred yw bod y pedwar plentyn yn perthyn i'w gilydd, yn ôl The Independent.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Brigâd Dân Llundain

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.