Môn: Arestio dyn 33 ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 53 oed
Mae dyn 33 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 53 oed mewn fflat yng Nghaergybi yn ystod oriau mân fore Sadwrn.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Lys Watling, Ffordd Llundain am 02:42 gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn dilyn digwyddiad mewn fflat.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Cafodd dyn 33 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae'r heddlu wedi cael rhagor o amser i'w holi ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd y Prif Dditectif Arolygydd Richard Sidney: "Mae'n swyddogion yn parhau yn y cyfeiriad tra bod ein hymholiadau'n parhau.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cydweithrediad tra bod swyddogion yn parhau yn y lleoliad."