'Deinamig ag egnïol': Cyhoeddi enillydd Gwobr Iris 2026

Llun: Gwobr Iris
Magid/Zafar

Mae’r cyfarwyddwr Luís Hindman wedi ennill prif wobr Gŵyl Ffilmiau LHDTQ+ Gwobr Iris 2026 yng Nghaerdydd am ei ffilm fer Magid / Zafar.

Hindman yw’r trydydd gwneuthurwr ffilmiau o’r DU i ennill y wobr, sy’n werth £40,000 ac yn rhoi cyfle i’r enillydd greu ffilm fer LHDTQ+ newydd yn y DU.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn stiwdios BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd ddydd Sul, wrth i’r ŵyl ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed.

Mae Magid / Zafar yn adrodd stori sy’n datblygu yng nghanol tensiynau cynyddol mewn siop tecawê Bacistanaidd Brydeinig.

Mae’r ffilm yn archwilio gwrthdaro rhwng traddodiad a moderniaeth, a rhwng hunaniaeth Bacistanaidd a disgwyliadau’r Gorllewin.

Wrth i Magid wynebu penderfyniadau am ei ddyfodol, mae’n gorfod dewis rhwng y bywyd y mae wedi’i adnabod erioed a dilyn llwybr gwahanol.

Mae Hindman, sy’n awdur a chyfarwyddwr o dras De Asiaidd a Gogledd Iwerddon, wedi cael ei enwebu am wobr BAFTA ac wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Ffilm Annibynnol Prydain (BIFA).

Cafodd Magid / Zafar ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm BFI Llundain yn 2025, cyn cael ei henwebu am wobr BAFTA ac ennill gwobr BIFA am y Ffilm Fer Brydeinig Orau.

'Emosiynau'

Wrth gyhoeddi’r enillydd, dywedodd Sara Peacock, cadeirydd rheithgor Gwobr Iris 2026:

“Ffrwydrodd y ffilm hon ar y sgrin a sgubo'r rheithgor gyda'i stori ddeinamig ac egnïol.

“Canmolodd y rheithgor yr adrodd straeon, a gafodd ei lunio'n ofalus trwy ddeialog a heb ei fwydo â llwy, yn ogystal â'r grefft a ddefnyddiodd gyflymder a thempo i dynnu'r gynulleidfa i emosiynau'r cymeriadau.”

Dywedodd Berwyn Rowlands, cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris y byddai ffilm fer "bwerus" Luis Hindman, Magid / Zafar, wedi bod yn "enillydd teilwng mewn unrhyw flwyddyn.”

“Dyma’r trydydd tro yn unig i wneuthurwr ffilmiau o Brydain ennill Gwobr Iris; felly, mae ein 20fed pen-blwydd yn teimlo fel y flwyddyn berffaith i ddathlu enillydd arall o’r wlad hon.”

Cafodd tair ffilm arall eu crybwyll yn arbennig gan y rheithgor, sef A Cappella gan Marcin Kluczykowski o Wlad Pwyl, Black Shawl gan Kamila Boichenko o Wlad Pwyl, a Seahorse gan Leo Tabosa o Frasil.

Mae Gŵyl Gwobr Iris wedi cael ei chynnal yng Nghaerdydd ers 2007, ac mae bellach yn denu tua 11,000 o bobl i’w digwyddiadau.

Sefydliad Michael Bishop sy’n cefnogi’r brif wobr, ac mae Hindman ar hyn o bryd yn datblygu ei ffilm nodwedd gyntaf gyda’r BFI a Film4.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.