Afon Taf: Gollyngiad olew wedi llygru 'hyd at bedwar cilomedr o'r afon'
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod gollyngiad olew wedi llygru hyd at bedwar cilometr o Afon Taf.
Dywedodd y corff ddydd Sadwrn fod hyd at 25,000 litr o gerosin wedi ei ollwng i’r afon yn dilyn adroddiadau am ollyngiad ddydd Gwener.
Mae’r llygredd wedi effeithio ar drigolion sy’n byw mewn sawl ardal, gan gynnwys Nantgarw, Trefforest, Glan-y-Llyn, Ffynnon Taf, Gwaelod-y-garth a Thongwynlais.
Yn ôl adroddiadau, mae’r llygredd wedi achosi cur pen a phroblemau i lygaid a gyddfau trigolion sy’n byw ger yr afon.
Mae Newyddion S4C hefyd wedi clywed bod pysgod wedi marw yn yr afon yn dilyn y gollyngiad.
Mewn diweddariad ddydd Sul, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ei fod yn “cymryd camau i fynd i'r afael â'r llygredd parhaus sy'n effeithio ar tua 4km o Afon Taf.”
Mae’r corff yn “parhau i ymchwilio” i ffynhonnell y llygredd.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2111397390070517941?s=20
Dywedodd llefarydd: “Mae'r camau a gymerwyd hyd yn hyn wedi lleihau'n sylweddol faint o danwydd sy'n dianc o'r safle trwy ei system ddraenio danddaearol.
“Mae rhwystr arnofiol a deunyddiau amsugnol wedi'u gosod ar yr afon fechan sy'n llifo i'r brif afon, er mwyn ceisio atal unrhyw danwydd sy'n dal i ddianc.
“Mae gweithredwr y safle yn parhau i dynnu cymaint o danwydd â phosibl o'r system ddraenio, er mwyn cyfyngu ar y risg iddo ddianc i'r amgylchedd.
“Bydd gwaith asesu pellach a chasglu tystiolaeth o'r effaith yn parhau heddiw; mae swyddogion yn bwriadu defnyddio drôn i arolygu'r Afon Taf ac asesu'r effaith.”
Ychwanegodd y corff fod “yr arogl tanwydd cryf, a effeithiodd ar y gymuned leol yn gynharach yn ystod y digwyddiad, yn lleihau.”
'Cau drysau a ffenestri'
Fodd bynnag, mae’r corff yn parhau i gynghori trigolion i gadw drysau a ffenestri ar gau tra bod yr arogl yn bresennol ac osgoi dod i gysylltiad â’r dŵr.
Mae hefyd yn cynghori unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â’r cerosin i olchi'r ardal yr effeithiwyd arni â dŵr cynnes a sebon.
Yn ôl y corff, mae’n “annhebygol” y bydd dod i gysylltiad â’r tanwydd yn achosi unrhyw effeithiau andwyol.
Mae’r corff hefyd yn cynghori unrhyw un sy’n teimlo’n sâl i geisio cyngor meddygol drwy ffonio GIG 111 Cymru.
Mae un o drigolion yr ardal wedi codi pryderon am ymateb CNC i'r digwyddiad.
Mewn datganiad a anfonodd Gareth Llywelyn at Newyddion S4C, dywedodd: "Rwy'n gwerthfawrogi bod dod o hyd i ffynhonnell digwyddiad llygredd a'i ynysu yn cymryd amser. Ond mae hynny'n codi cwestiynau difrifol iawn."
"Sut wnaeth gollyngiad ar y raddfa hon barhau am oriau? Pam y caniatawyd i gymaint o danwydd ddianc i'r afon, yn ôl pob golwg? A ble roedd y mesurau diogelwch?"
Mae hefyd wedi mynegi pryder am yr effaith bosibl ar fywyd gwyllt yr afon.