Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C ar fore Sadwrn 13 Tachwedd.
Dyma rai o'r prif straeon o Gymru a thu hwnt.
COP26: Trafodaethau’n parhau am ddiwrnod ychwanegol
Bydd Uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn parhau am ddiwrnod ychwanegol ddydd Sadwrn oherwydd anghytuno dros y cytundeb terfynol. Roedd y gynhadledd i fod i gloi am 18:00 ddydd Gwener 12 Tachwedd.
Bron i 400 o yrrwyr bysiau yn streicio yn y gogledd
Bydd bron i 400 o yrwyr bysiau Arriva Cymru yn streicio yn y gogledd dros y penwythnos. Mae’r strecio yn ymgais i gael codiad cyflog sy’n gyfatebol i’r hyn sy'n cael ei roi yng Ngogledd Orllewin Lloegr.
Rheolaeth tad Britney Spears dros fywyd ei ferch 'wedi dod i ben'
Mae barnwr wedi dweud bod rheolaeth tad Britney Spears dros ei ferch “wedi dod i ben”. Daw hyn bron i 14 mlynedd ar ôl i’w thad, Jamie Spears, dynnu ei hawliau i wneud penderfyniadau am ei harian, gyrfa a bywyd personol.
Cymru v Belarws: Disgwyl i Bale chwarae ei ganfed gêm
Mae disgwyl i Gareth Bale ennill ei ganfed cap dros ei wlad nos Sadwrn wrth i Gymru herio Belarws yng Nghaerdydd. Mae'r ymosodwr wedi dychwelyd i'r garfan cyn gêm bwysicaf Cymru hyd yma yn eu hymgyrch i gyrraedd y Cwpan y Byd yn 2022.
Owain Wyn Evans yn codi £1.8m i elusen ar ôl 24 awr o ddrymio
Roedd Owain Wyn Evans yn ei ddagrau wrth iddo gwblhau ei 'Drumathon' ar gyfer elusen Plant mewn Angen fore Sadwrn. Llwyddodd y cyflwynydd tywydd o Rydaman i godi £1.8m i'r elusen tra'n drymio am 24 awr.