Newyddion S4C

Bale i ennill ei ganfed cap dros Gymru yn erbyn Belarws

13/11/2021
Gareth Bale

Fe fydd Gareth Bale yn ennill ei ganfed cap dros ei wlad wrth i Gymru herio Belarws yng Nghaerdydd. 

Dyw'r ymosodwr heb chwarae am dros ddau fis oherwydd anaf i'w linyn y gar ond mae Rob Page wedi'i gynnwys yn y tîm cychwynnol. 

Yn un o gewri pêl-droed Cymru, mae Bale wedi dychwelyd i'r garfan cyn gêm bwysicaf Cymru hyd yma yn eu hymgyrch i gyrraedd y Cwpan y Byd yn 2022.

Yn gapten ar y tîm hefyd, mae wedi ysbrydoli sawl canlyniad anhygoel dros y blynyddoedd ac fe fydd y cefnogwyr yn gobeithio y gallai helpu sicrhau buddugoliaeth bwysig arall yn Stadiwm Dinas Caerdydd.  

Llwyddodd Bale i achub gobeithion Cymru'r tro diwethaf iddyn nhw chwarae Belarws ym mis Medi - gan sgorio gôl yn y munud olaf i sicrhau tair o goliau iddo'i hun a buddugoliaeth o 3-2.

Ond bydd rhaid i ddynion Rob Page ddysgu gwersi o'r gêm honno, gan eu bod ar ei hôl hi ar yr egwyl y noson honno wedi perfformiad siomedig. 

Fe fydd y dynion mewn coch am fanteisio ar gyfle i godi i'r ail safle yn Grŵp E os daw buddugoliaeth dros y penwythnos. 

Mae Cymru yn drydydd ar hyn o bryd, gyda'r Weriniaeth Siec un safle'n uwch ar wahaniaeth goliau ac wedi chwarae un gêm yn fwy. 

Image
Ymarfer Cymru

Mae bron yn amhosib i Gymru orffen ar frig y tabl - mae Gwlad Belg bum pwynt ar y blaen ac yn teithio i Gaerdydd wythnos nesaf - ond mae sicrhau ail safle yn holl bwysig i'w ymdrechion i gyrraedd eu Cwpan y Byd cyntaf ers 1958. 

Mae Cymru hefyd eisoes wedi sicrhau safle yn y gemau ail-gyfle oherwydd ei berfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Ond trwy orffen yn ail, bydd gan Gymru lwybr haws yn y gemau ail-gyfle yn ogystal â chwarae o flaen cefnogaeth frwd y Wal Goch adref. 

Dywedodd chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen wrth Sgorio: "Erbyn hyn mae 'na digon o brofiad nawr o fod yn y sefyllfa 'ma fel chwaraewyr felly ni'n defnyddio profiad 'na i helpu ni.

"Tri phwynt yn y gêm gyntaf yw'r peth mwyaf pwysig... mae'n rhaid i ni cael targed o ennill bron pob gêm gallwn ni.

"Dyma ddwy gêm gallwn ni ennill, yn enwedig wrth ystyried ni'n chwarae gartref, o flaen ein torf."

Cymru v Belarws, Stadiwm Dinas Caerdydd - y gic gyntaf am 19:45. Gwyliwch ar S4C o 19:15.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.