Newyddion S4C

Bron i 400 o yrwyr bysiau yn streicio yn y gogledd

13/11/2021
bws arriva

Bydd bron i 400 o yrwyr bysiau Arriva Cymru yn streicio yn y gogledd dros y penwythnos.

Bydd y streicio'n dechrau am 06.00 fore dydd Sul ac yn parhau am gyfnod o bump wythnos.

Mae’r strecio yn ymgais i gael codiad cyflog sy’n gyfatebol i’r hyn sy'n cael ei roi yng Ngogledd Orllewin Lloegr.

Mae gwahaniaeth cyflog o £1.81 yr awr rhwng gyrwyr Arriva Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr ar hyn o bryd.

Dywedodd Sharon Graham, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Unite: “Mae Arriva Cymru wedi dewis peidio â chynnig y cynnig cyflog y maen nhw'n ei haeddu i'w gweithlu ffyddlon yng Nghymru.

“Bydd eu methiant i fynd i’r afael â thâl tlodi nawr yn arwain at aflonyddwch difrifol i wasanaethau bysiau a phobl Gogledd Cymru. Mae ein haelodau yn unedig a byddant yn derbyn cefnogaeth lawn Unite dros y pum wythnos nesaf o streicio.”

Mae datganiad gan Arriva Cymru yn nodi ei bod nhw’n “hynod siomedig” y bydd y streicio yn mynd yn ei flaen.

Mae’n bosib y bydd gwasanaethau bysiau ar draws Gogledd Cymru yn cael ei heffeithio yn ystod y streic.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi rhybuddio teithwyr bod y gweithredu diwydiannol yn debygol o effeithio ar nifer o fysiau ar lwybrau allweddol ar yr Ynys.

“O ystyried y nifer posibl o wasanaethau bws a allai gael eu heffeithio arnynt, yn anffodus, nid yw’r Cyngor Sir mewn sefyllfa i allu darparu gwasanaethau amgen.

“Rydym wedi hysbysu Coleg Menai am y risg i’r trefniadau arferol ac rydym yn annog y rhai hynny sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn i wneud trefniadau teithio gwahanol ar gyfer yr wythnosau sydd i ddod.”

Mae Cyngor Sir Fflint wedi cynllunio darpariaeth cludiant amgen i ddisgyblion ysgol sydd â thocyn Arriva, ond ni fydd plant sy’n talu am fws i’r ysgol yn gymwys na’r rheiny sy’n defnyddio bws Arriva fel cludiant i’r coleg.

Dywedodd llefarydd ar ran Bysiau Arriva Cymru: “Rydym yn hynod siomedig, er gwaethaf trafodaethau helaeth a nifer o gynigion gwell, a fyddai wedi cynyddu tâl gyrrwr i £11.59 yr awr yn ôl-daliad i Ionawr 2021 a chynnydd pellach i £12.00 yr awr yn 2022, mae ein cwsmeriaid yn cael eu heffeithio.

“Rydyn ni wedi gweithio’n ddiflino i osgoi’r streic hon, a dyna pam rydyn ni wedi cynnig cynigion newydd yn gyson, tra bod yr undebau llafur wedi gwrthod trafod

“Mae Arriva yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr gwych a dyna pam mae ein gyrwyr wedi derbyn codiadau cyflog parhaus o flwyddyn i flwyddyn yn mynd yn ôl i 2008. Dyma hefyd y rheswm rydyn ni'n talu cyflogau uwch nag unrhyw gwmni bysiau arall yng Nghymru a pham rydyn ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i ddod o hyd i ffordd ymlaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.