Newyddion S4C

COP26: Trafodaethau’n parhau am ddiwrnod ychwanegol

13/11/2021
x

Mae Uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 wedi parhau am ddiwrnod ychwanegol ddydd Sadwrn oherwydd anghytuno dros y cytundeb terfynol.

Roedd y gynhadledd i fod i gloi am 18:00 ddydd Gwener 12 Tachwedd.

Ond, dywedodd Llywydd yr Uwchgynhadledd, Alok Sharma bod angen “adolygu’r cytundeb” dros nos gan fod ymgynghori rhwng gwledydd “yn dal i barhau”.

Un o'r pwyntiau sy'n cael ei adolygu yw'r addewidion ynghylch tanwyddau ffosil. 

Mae arweinwyr y byd wedi bod yn y gynhadledd yng Nglasgow dros y bythefnos ddiwethaf i drafod sut i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Mae rhai ymgyrchwyr yn dweud nad yw'r trafodaethau yn "mynd yn ddigon pell."

Image
Drakeford COP
Bu'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn rhan o'r trafodaethau yng Nglasgow

Roedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson a Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford ymhlith yr arweinwyr sydd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau yng Nglasgow.

Mae disgwyl y bydd cyfres o addewidion wedi eu penderfynu mewn cytundeb terfynol ddydd Sadwrn ar ôl cyfarfod yn y bore.

Beth sydd wedi cael ei drafod?

Un o brif dargedau COP26 yw bod gwledydd y byd yn ymrwymo i gadw tymheredd cynhesu byd eang o dan 1.5°c.

Mae prif addewidion y ddogfen ddrafft  yn cynnwys sicrhau bod gwledydd yn cyflwyno cynlluniau i leihau carbon ymhellach erbyn 2022 ac i sicrhau "o leiaf $100bn y flwyddyn" i gefnogi gwledydd llai i ddatgarboneiddio.

Mae'r ddogfen hefyd yn galw am ddod â'r defnydd o lo a thanwydd ffosiledig i ben. 

Rhai o'r pethau sydd eisoes wedi eu penderfynu yw:

  • y bydd tua 40 o wledydd yn gweithio i stopio buddsoddi mewn pwer glo newydd
  • bod mwy na 100 o wledydd wedi addo rhoi diwedd ar ddatgoedwigo erbyn diwedd 2030.
  • bod 100 o wledydd wedi addo i dorri allyriadau nwy methan gan 30% erbyn 2030.

Ond yn ôl y Llywydd, Alok Sharma, mae angen “adolygu geiriad” y cytundeb.

Dywedodd ysgrifennydd y Llywydd mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol nos Wener: “Mae fy nhîm a finnau nawr yn ymgynghori’n ddwys gyda grwpiau a gwledydd mewn ymdrech i adlewyrchu’r safbwyntiau sydd wedi eu rhannu, dod o hyd i’r cydbwysedd cywir a datblygu testunau sydd wedi eu hadeiladu trwy’r cydweithio.”

“Rwy’n diolch yn fawr i bawb am yr ysbryd o gyd-weithio sy’n parhau i lifo i mewn i heno.”

'ddim yn mynd ddigon pell'

Mae rhai ymgyrchwyr yn poeni na fydd y ddogfen derfynol yn ddigon i fynd i'r afael newid hinsawdd. 

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Rhian Barrance o Wrthryfel Dyfodiant bod addewidion "ddim yn mynd yn ddigon pell".

"Mae 25 ohonyn nhw wedi bod o'r blaen, felly mae'n anodd ymddiried yn ein harweinwyr i wireddu'r addewidion yma."

Dilynwch wefan ac ap Newyddion S4C am y diweddaraf ddydd Sadwrn.

Llun: Paul Ellis / AFP 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.