Owain Wyn Evans yn codi dros £2m i elusen ar ôl 24 awr o ddrymio

Roedd Owain Wyn Evans yn ei ddagrau wrth iddo gwblhau ei 'Drumathon' ar gyfer Plant mewn Angen fore Sadwrn.
Llwyddodd y cyflwynydd tywydd o Rydaman i godi mwy na £2m i'r elusen tra'n drymio am 24 awr.
Yn ôl The Evening Standard, dywedodd Owain wrth orffen y sialens: "Dwi'n methu credu be ni newydd 'neud.
"Mae wedi bod yn anodd iawn ond mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel."
Darllenwch y stori llawn yma.
Llun: @OwainWynEvans trwy Twitter