Rheolaeth tad Britney Spears dros fywyd ei ferch ‘wedi dod i ben’
13/11/2021
Mae barnwr wedi dweud bod rheolaeth tad Britney Spears dros ei ferch “wedi dod i ben”.
Daw hyn bron i 14 mlynedd ar ôl i’w thad, Jamie Spears, dynnu ei hawliau i wneud penderfyniadau am ei harian, gyrfa a bywyd personol, yn ôl The Guardian.
Mae'r llys eisoes wedi clywed bod rheolaeth parhaus Mr Spears dros fywyd ei ferch yn “wenwynig”.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y seren bop 39 oed ei bod yn "caru ei ffans" ac mai dydd Gwener oedd y "diwrnod gorau erioed".
Darllenwch y stori'n llawn yma.