Gwahardd cefnogwr o Stadiwm y Principality am oes ar ôl neidio ar y cae

Wales Online 08/11/2021
tresmaswr

Fe fydd dyn wnaeth redeg ar y cae yn ystod y gêm rhwng Cymru a De Affrica yng Nghaerdydd nos Sadwrn yn cael ei wahardd o bob digwyddiad rygbi yn Stadiwm y Principality am oes.

Gyda'r sgôr yn gyfartal ar 15-15, a'r cloc ar 63 munud, roedd cefnogwyr ar bigau'r drain a Chymru'n ysu i gael sicrhau mantais unwaith eto.

Neidiodd y dyn ar y cae gan ymyrryd gyda'r chwarae ar eiliad dyngedfennol gan atal llwybr Liam Williams wrth iddo redeg am y llinell gais. 

Fe aeth pencampwyr y byd, De Affrica, ymlaen i ennill 23-18, ac roedd cefnogwyr Cymru'n gandryll gyda'r dyn oedd wedi tresmasu yn dilyn y digwyddiad.

Fe wnaeth rheolwr Cymru Wayne Pivac ddisgrifio'r digwyddiad fel un "siomedig", ond ychwanegodd "nad oedd dim y gallai swyddogion ei wneud am hynny".

Darllenwch y stori'n llawn yma gan Wales Online.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.