Newyddion S4C

Colled agos a chreulon i Gymru yn erbyn De Affrica

06/11/2021
CEFNOGWR CYMRU

Roedd hi’n berfformiad calonogol i Gymru o'i gymharu â'u hymddangosiad yn erbyn Seland Newydd yr wythnos diwethaf.

Ac er i ochr Wayne Pivac dreulio rhannau o’r gêm ar y blaen, fe lwyddodd y Springboks i gwtogi’r fantais yn ystod y munudau olaf.

Cais hwyr gan Malcolm Marx wnaeth sicrhau buddugoliaeth i’r ymwelwyr, y gyntaf iddynt yng Nghymru ers 2013.

Y sgôr terfynol: Cymru 18 – 23 De Affrica

Image
Dan Biggar
Roedd hi'n hanner cyntaf prysur i Dan Biggar, gyda phedair cic gosb yn sicrhau mantais i Gymru. Llun: Huw Evans

Roedd hi’n ddechreuad ffyrnig yn Stadiwm y Principality, ac yntau yn ôl yn y crys rhif 10, Dan Biggar oedd yn gyfrifol am daro’r gic gyntaf.

Roedd yr hanner cyntaf yn llond trol o giciau cosb, gyda’r ddisgyblaeth yn wallus a’r naill dîm a'r llall yn derbyn cerdyn melyn o ganlyniad.

Roedd Dan Biggar a Handre Pollard wyneb yn wyneb am y mwyafrif o’r hanner cyntaf, gyda chic gosb gan Biggar yn sicrhau’r 3 pwynt cyntaf i Gymru tra bod y cloc ar 10 munud.

Roedd yr ymwelwyr yn gyfartal o 3-3 wedi 12 o funudau gyda Pollard yn cicio pwyntiau cyntaf De Affrica, ond buan y gwnaeth Dan Biggar ddyblu’r sgôr wedi cic gosb arall ar 14 o funudau.

Ar ôl dod yn gyfartal unwaith eto ar 18 o funudau, fe wnaeth Dan Biggar roi Cymru ar y blaen gyda 27 o funudau ar y cloc.  

Fe lwyddodd i ymestyn mantais Cymru funudau yn ddiweddarach gyda phedwaredd gic gosb Cymru yn yr hanner cyntaf, gyda De Affrica ddyn i lawr am 10 munud ar ôl i Ox Nche dderbyn cerdyn melyn.

Ond buan daeth cosb i Gymru gyda’r dyfarnwr yn rhoi cerdyn melyn i Rhys Carre am ymuno â’r sgarmes o’r ochr.  

Fe wnaeth Handre Pollard gwtogi mantais Cymru unwaith eto gyda chic gosb ola’r hanner, gyda’r sgôr ar ddiwedd yr ail hanner yn 12-9.

Roedd hi’n 40 munud gref i’r crysau cochion felly gyda dwy ymyrraeth gan Ellis Jenkins yn y 22 yn allweddol i’w mantais ar ddiwedd yr ail hanner.

Gyda’r cloc ar 51 o funudau, Dan Biggar oedd yn gyfrifol am ymestyn mantais Cymru unwaith eto gan ddod a’r sgôr i 15-9.

54 o funudau ar y cloc ac fe wnaeth Frans Steyn gwtogi mantais ochr Pivac gyda chic gosb; 5 munud yn ddiweddarach gyda’r cloc ar 59 o funudau daeth cic gosb arall i Dde Affrica ar ôl i Dan Biggar fethu â rhyddhau tacl. 

Daeth cyfres o newidiadau ar 60 o funudau, gyda WillGriff John a Liam Williams yn dod ar y cae.

Mewn moment dyngedfennol, cafodd llwybr Liam Williams am gais ei rwystro gan dresmaswr.

Gyda’r dyfarnwr yn chwarae’r fantais i Gymru, fe wnaeth Dan Biggar sicrhau ei chweched cic gosb am y noson gan roi Cymru dri phwynt ar y blaen unwaith eto.

Cafodd cais gyntaf y gêm gan Makazole Mapimpi ei wrthod ar 66 o funudau oherwydd camsefyll. Ond buan daeth cyfle arall i’r Springboks, gyda chais gan Malcolm Marx yn rhoi ei ochr ar y blaen o ddau bwynt.

Y sgôr yn 18-20 ar 72 o funudau.

Roedd pawb yn Stadiwm y Principality ar bigau’r drain yn ystod y 10 olaf, gyda De Affrica yn gobeithio dal eu gafael ar eu mantais, tra bod Cymru’n ysu am gais munud olaf.

Cafodd unrhyw obeithion eu chwalu ar 80 o funudau, gyda Elton Jantjies yn sicrhau buddugoliaeth i’r ymwelwyr gyda chic gosb.

Yn gêm anodd i Gymru, a’r sgôr terfynol yn 23 i 18. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.