Newyddion S4C

Cymru v De Affrica: Ymateb cynddeiriog i dresmaswr yn atal y chwarae

07/11/2021

Cymru v De Affrica: Ymateb cynddeiriog i dresmaswr yn atal y chwarae

Mae fideo newydd yn dangos ymateb cynddeiriog cefnogwyr Cymru ar ôl i ddyn redeg ar y cae yn ystod y gêm yn erbyn De Affrica nos Sadwrn. 

Roedd y dyn wedi ymyrryd gyda'r chwarae ar eiliad dyngedfennol gan atal llwybr Liam Williams wrth iddo redeg am y llinell gais. 

Gyda'r sgôr yn gyfartal o 15-15 a'r cloc ar 63 munud, roedd Stadiwm y Principality ar bigau'r drain a Chymru'n ysu i gael sicrhau mantais unwaith eto.

Fe aeth pencampwyr y byd, De Affrica, ymlaen i ennill 23-18. 

Mae'r rheolwr Wayne Pivac wedi disgrifio'r digwyddiad fel un "siomedig", ond gan ychwanegu "nad oedd dim y gallai swyddogion ei wneud am hynny".

Cafodd y tresmaswr ei ddisgrifio gan Bryan Habana fel "idiot".

Image
tresmaswr
Y foment lle cafodd llwybr Liam Williams ei atal wrth iddo redeg am y llinell gais. Llun: Huw Evans

Nid oes sicrwydd y byddai Williams wedi sgorio cais petai'r dyn heb atal ei lwybr, ond ni wnaeth hynny dawelu'r dorf, wnaeth ymateb yn ffyrnig wrth i'r dyn gael ei gludo gan swyddogion oddi ar y cae chwarae. 

Dywedodd rheolwr Stadiwm y Principality Mark Williams fod y tîm yn "condemnio’r math yma o ymddygiad ar y telerau cryfaf posib". 

"Cafodd ei ddal a'i hebrwng o'r stadiwm ar unwaith a'i drosglwyddo i Heddlu De Cymru."

Nid dyma'r tro cyntaf i dresmaswyr dorri rheolau'r stadiwm yng Nghyfres yr Hydref eleni, gydag un dyn yn rhedeg i ymuno â Seland Newydd i ganu'r anthem cyn y gêm ddydd Sadwrn diwethaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.