Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

01/11/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C ar fore Llun, 1 Tachwedd.

Dyma gipolwg ar rai o straeon y bore.

COP26: Boris Johnson i rybuddio ei bod 'yn unfed awr ar ddeg'

Yn seremoni agoriadol COP26 ddydd Llun, mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson rybuddio arweinwyr byd ei bod hi’n “funud i hanner nos ac mae angen i ni weithredu nawr.” Yn ôl Sky News, bydd Boris Johnson yn defnyddio ei araith yng Nglasgow i gyhoeddi £1 biliwn yn ychwanegol o gymorth gan y DU i ychwanegu at gyfanswm o £12.6 biliwn gan arweinwyr y byd i fynd i'r afael â newid hinsawdd dros y pum mlynedd nesaf.

Cynllun newydd i ‘ddiwygio’ addysg ôl-16 yng Nghymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau i “ddiwygio” addysg ôl-16 yn y Senedd ddydd Llun. Os yw’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai holl elfennau addysg ôl-16 gan gynnwys colegau, prifysgolion, addysg oedolion, prentisiaethau a’r chweched dosbarth yn dod o dan un corff, yn ôl Llywodraeth Cymru. Daw hyn wrth i'r Llywodraeth ddweud bod rhai trefniadau addysg ôl-16 heb eu newid ers 30 mlynedd.

 

Dyn sydd wedi derbyn pedwar trawsblaniad yn cyhoeddi llyfr i helpu eraill

Mae dyn sydd wedi cael pedwar trawsblaniad aren wedi cyhoeddi llyfr i helpu eraill sy’n mynd drwy’r un broses. Cafodd Chris Simpson, 35, o Wrecsam ei eni yn 28 wythnos oed. Mae wedi cael pedwar trawsblaniad aren ers iddo fod yn 18 mis oed. Mae ei lyfr 'Transplants and Fears' yn sôn am ei brofiadau yn y gobaith o helpu pobl eraill sy'n mynd trwy brofiad tebyg.

Jonny Clayton yn ennill Cyfres Dartiau'r Byd

Mae’r Cymro, Jonny Clayton, wedi ennill Cyfres Dartiau’r Byd 2021 yn Amsterdam. Daeth y Cymro o Bontyberem, Sir Gaerfyrddin yn fuddugol ar ôl curo Dimitri Van Den Bergh o 11-6 nos Sul. Mae Clayton eisoes wedi ennill Grand Prix y Byd yn gynharach ym mis Hydref, yn ogystal â'r Uwch Gynghrair a’r Meistri eleni.

Emyn 'mwyaf poblogaidd' Cymru yn cael ei ddatgelu

Mae emyn mwyaf poblogaidd Cymru wedi ei datgelu yn dilyn pleidlais gan wylwyr y gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol. Mewn rhaglen arbennig o’r gyfres nos Sul 31 Hydref, datgelwyd mai emyn Bro Aber gyrhaeddodd y brig. Derbyniodd S4C mwy na 1,100 o bleidleisiau ar gyfer pôl piniwn Emyn i Gymru 2021. Dyma'r ail raglen arbennig sy'n rhan o ddathliadau penblwydd y gyfres yn 60 eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.