Newyddion S4C

Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dathlu'r 60 gyda rhaglen arbennig

22/10/2021
Aled a Nia DCDC

Mae un o gyfresi mwyaf adnabyddus S4C yn dathlu pen-blwydd arbennig eleni yn 60 oed.

Cafodd Dechrau Canu Dechrau Canmol ei darlledu am y tro cyntaf ym mis Ionawr 1961.  

Wrth i'r gyfres ddathlu chwe degawd ar y sgrin, bydd S4C yn darlledu rhaglen arbennig ar nos Sul 24 Hydref am 19:00.

Cafodd y rhaglen gyntaf ei darlledu o Gapel Trinity yn Sgeti, Abertawe, ac mae wedi ymweld ag amryw o leoliadau ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd.

Mae nifer o sêr ifanc wedi cael llwyfan ar y gyfres ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys y canwr adnabyddus Aled Jones.

Mae yntau bellach yn cyflwyno ar Songs of Praise, ond ar y gyfres hon cafodd ei lais ei glywed ar deledu yn gyntaf, o Eglwys y Plwy, Biwmares.

Image
Dechrau Canu
Fe fydd rhaglen arbennig ar 31 Hydref gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a 60 o gantorion dan arweinyddiaeth Owain Arwel Hughes yn canu 10 Emyn "mwyaf poblogaidd" Cymru.

Dywedodd y darlledwr Huw Llewelyn Davies, oedd yn gyflwynydd ar y gyfres rhwng 1998 a 2006: “Pan ges i gynnig cyflwyno’r gyfres fe ges i sioc, a dwi’n meddwl bod pobl eraill wedi cael hyd yn oed mwy o sioc!

“Ond roedd hi’n fraint aruthrol. Roedd hi’n bwysig i mi mai nid jyst cyflwynydd yn sefyll mewn capel oedd i’w weld yn ystod y rhaglen ond bod yr elfen sgyrsiol yn bwysig. Rhaglen y bobl yw hi wrth gwrs."

“Mae aros ar yr awyr am 60 o flynyddoedd yn dipyn o gamp i unrhyw raglen” meddai Nia Roberts, sy'n cyflwyno'r gyfres erbyn hyn.

“Yr hyn sy’n drawiadol i mi yw balchder y bobl sydd wedi ymwneud â’r gyfres ar hyd y degawdau a chariad y gynulleidfa tuag ati."

Fel rhan o'r dathliadau, fe fydd rhaglen arbennig arall ar 31 Hydref yn datgelu Emyn "mwyaf poblogaidd" Cymru yn 2021, gyda Huw Edwards yn cyflwyno.

Bydd Dechrau Canu Dechrau Canmol yn darlledu'r rhaglen arbennig am 19:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.