Ni fydd cetamin yn cael ei ddynodi fel cyffur dosbarth A er gwaethaf pryderon
Ni fydd cetamin yn cael ei ddynodi fel cyffur dosbarth A er gwaethaf pryderon ei fod yn gysylltiedig â nifer o farwolaethau.
Roedd Llywodraeth y DU wedi gofyn am gyngor arbenigol ar ôl i ddefnydd anghyfreithlon o'r cyffur godi i lefelau uwch nag erioed, ond mae'r Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau (ACMD) wedi dweud y dylai barhau i fod yn gyffur dosbarth B.
Mae cetamin wedi'i gysylltu â marwolaethau enwogion, gan gynnwys yr actor Friends, Matthew Perry, a'r seren drag o Fae Colwyn, The Vivienne.
Er bod modd ei gynnig am resymau meddygol, y gosb uchaf am ei gynhyrchu a'i gyflenwi'n anghyfreithlon yw hyd at 14 mlynedd yn y carchar.
Cafodd y cyffur ei ailddosbarthu o Ddosbarth C i Ddosbarth B yn 2014.
Yn ogystal ag arwain at farwolaethau posib, gall defnyddio cetamin achosi problemau iechyd hirdymor fel niwed i'r bledren.
Roedd 696 o farwolaethau yn ymwneud â defnydd cetamin anghyfreithlon rhwng 1999 a 2024, yn ôl dadansoddiad gan Goleg y Brenin Llundain o adroddiadau crwneriaid yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon rhwng 1999 a 2024.
Ond dywedodd ymchwilwyr fod y rhan fwyaf o bobl sy'n marw o ganlyniad i ddefnyddio cetamin wedi bod yn cymryd cyffuriau eraill ar yr un pryd, sy'n golygu efallai na fydd polisïau sy'n targedu un cyffur penodol yn llwyddiannus.
Wrth gyhoeddi eu penderfyniad ddydd Mercher, dywedodd yr ACMD fod defnyddwyr cyffuriau wedi dweud wrthyn nhw na fyddai uwchraddio cetamin i ddosbarth A yn lleihau eu defnydd o'r cyffur.
Ychwanegodd ACMD fod gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol hefyd wedi gwrthwynebu'r ailddosbarthu.
'Ddim yn lleihau'r niwed'
Dywedodd cadeirydd yr ACMD, yr Athro David Wood: "Mae adroddiad yr ACMD yn tynnu sylw at yr angen am ‘ddull system gyfan’ trwy eu hargymhellion i fynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â defnyddio cetamin, gan nad oes unrhyw argymhelliad sengl yn ddigonol i wneud hyn ar ei ben ei hun."
Roedd y Swyddfa Gartref wedi gofyn am adolygiad o ddosbarthiad y cyffur y llynedd ar ôl i grwner alw am gamau gweithredu yn dilyn marwolaeth dyn.
Daeth uwch grwner o Fanceinion, Alison Mutch, i'r casgliad fod James Boland, 38, o'r ddinas, wedi marw o sepsis a gafodd ei achosi gan haint yn yr arennau a oedd yn ganlyniad o "gymhlethdod o ddefnydd hirdymor o cetamin".
Mewn adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol, dywedodd y byddai cadw cetamin fel dosbarth B yn "debygol o annog eraill i ddechrau ei ddefnyddio neu barhau i’w ddefnyddio o dan yr argraff ffug ei fod yn ‘fwy diogel’".
Wrth ymateb i adroddiad yr ACMD, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae cetamin yn sylwedd hynod beryglus ac mae’r cynnydd diweddar yn ei ddefnydd yn peri pryder mawr.
"Rydym yn ddiolchgar i’r Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau am gyhoeddi eu hasesiad. Byddwn nawr yn ystyried yr adroddiad yn ofalus ac yn ymateb fel mater o flaenoriaeth."
Mae'r elusen cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl WithYou wedi croesawu'r penderfyniad i beidio ag ailddosbarthu cetamin fel cyffur Dosbarth A.
Dywedodd Abigail Wilson o'r elusen: "Rydym yn credu mai’r penderfyniad i beidio ag ailddosbarthu cetamin fel cyffur Dosbarth A yw’r un cywir.
"Rydym eisoes yn gwybod na fydd ei ailddosbarthu'r cyffur yn lleihau’r niwed cynyddol yr ydym yn ei weld.
"Ers ailddosbarthu cetamin o Ddosbarth C i Ddosbarth B yn 2014, mae defnydd cetamin wedi dyblu.
"Yn hytrach na’r bygythiad o gosb sy’n atal pobl rhag ceisio cymorth, mae'n rhaid i ni flaenoriaethu atal pobl rhag defnyddio'r cyffur, ymyrryd yn gynnar, a sicrhau bod y rhai sy’n profi niwed sy’n gysylltiedig â chetamin yn gallu cael mynediad hawdd at gymorth."