Penodi Rhodri Talfan Davies yn Gyfarwyddwr Cyffredinol dros dro'r BBC
Rhodri Talfan Davies fydd Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro'r BBC yn dilyn ymadawiad Tim Davie.
Fe fydd y Cymro o Gaerdydd yn parhau yn ei rôl fel Cyfarwyddwr y Cenhedlodd yn y gorfforaeth nes 1 Chwefror, pan fydd yn ymuno gyda bwrdd y BBC fel Cyfarwyddwr Gweithredol.
Bydd yn cymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro'r BBC ar 3 Ebrill.
Mewn datganiad i staff y BBC, dywedodd cadeirydd y gorfforaeth, Samir Shah ei fod yn “arweinydd rhagorol” sydd wedi’i ymrwymo i ddarparu gwasanaeth a chynrychioli “cynulleidfaoedd ym mhob rhan o’r DU.”
“Rwy’n gwybod y byddwch yn rhoi eich cefnogaeth lawn iddo,” meddai.
Daw'r cyhoeddiad wedi i Tim Davie ymddiswyddo o’i rôl ym mis Tachwedd yn dilyn honiadau yn ymwneud a rhaglen ddogfen Panorama.
Cafwyd beirniadaeth am olygu araith gan Arlywydd America Donald Trump, hynny ar ddiwrnod ymosodiadau ar adeilad y Capitol yr Unol Daleithiau yn 2021.
Wrth drafod Tim Davie a fydd yn gadael ei rôl fel Cyfarwyddwr Cyffredinol ar 2 Ebrill, dywedodd Mr Shah: “Fe fydd yna gyfle i ddathlu Tim a’i ddiolch am ei ymroddiad arbennig i’r BBC yn agosach i’w ddyddiad gadael.
“Tan hynny, mae Tim yn parhau i arwain y gorfforaeth trwy’r cyfnod allweddol yma tra ein bod yn paratoi i ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ar ei phapur gwyrdd ynglŷn â dyfodol siarter y BBC.”
Mewn datganiad yn dilyn ei benderfyniad i ymddiswyddo, dywedodd Davie: “Fel pob sefydliad cyhoeddus, dyw’r BBC ddim yn berffaith, ac mae’n rhaid i ni fod yn agored, tryloyw a chymryd cyfrifoldeb.”
Dywedodd y BBC eu bod yn y broses o benodi Cyfarwyddwr Cyffredinol parhaol.
Cadarnhaodd y gorfforaeth y bydd Rhuannedd Richards yn parhau yn ei rôl fel Cyfarwyddwr y Cenhedloedd dros dro tra bydd Davies yn gwasanaethu yn ei rôl newydd ef dros dro.