'Pryderu'n fawr': Safle Parc Penrhos ar Ynys Môn ar werth unwaith eto

Penrhos

Mae safle Parc Penrhos ar Ynys Môn ar werth unwaith eto wedi i’r cwmni oedd wedi ei brynu fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Fe brynodd cwmni The Seventy Ninth Group safle Parc Penrhos ym mis Ionawr y llynedd, gyda'r bwriad o ddatblygu parc gwyliau yno.

Ond erbyn mis Ebrill, fe aeth y cwmni oedd wedi ei leoli yn Southport i’r wal, gyda'r parc yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae’r tir a'r eiddo sydd arno bellach ar werth unwaith eto a hynny drwy ymgynghorwyr eiddo masnachol Lambert Smith Hampton.

Mae’r parc “yn cynnig amgylchoedd naturiol godidog a mynediad uniongyrchol i un o dirweddau mwyaf annwyl Ynys Môn,” meddai hysbyseb y cwmni am y safle.

“Mae caniatâd cynllunio presennol a roddwyd ym mis Ebrill 2016 ar gyfer hyd at 500 o unedau hamdden, gan gynnwys lletyau a bythynnod. 

“Mae'r caniatâd yn parhau'n ddilys tan fis Ebrill 2026, gan ddarparu llwybr clir ar gyfer datblygu.”

Mae grŵp cymunedol sy’n gobeithio cymryd rheolaeth o’r parc wedi dweud eu bod nhw’n “pryderu’n fawr” am y datblygiad.

Dywedodd arweinydd y grŵp Achub Parc Arfordirol Penrhos, Hilary Paterson-Jones, ei bod yn galw ar Gyngor Ynys Môn i ailystyried y caniatâd cynllunio presennol sydd ar y safle.

“Rhoddwyd y caniatâd cynllunio yn 2016, a oedd yn ddilys tan 2026, o dan amgylchiadau gwahanol; rydym yn galw am adolygiad newydd i gyd-fynd ag anghenion lleol a diogelu mynediad cyhoeddus,” meddai.

Mae Newyddion S4C wedi holi am ymateb Cyngor Ynys Môn i'r newyddion fod y safle ar werth unwaith eto.

‘Harddwch’

Dywedodd Lambert Smith Hampton eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd i werthu'r safle gan weinyddwyr o gwmni CG&Co, gyda'r cwmni hwnnw'n gyd-weinyddwyr ar un o is-gwmnïau The Seventy Ninth Group, DJC Leisure Limited:

“Mae Lambert Smith Hampton, sy'n gweithredu ar ran CG&Co (cyd-weinyddwyr DJC Leisure Limited), yn falch iawn o gyflwyno cyfle eithriadol i gaffael datblygiad pentref hamdden gyda chydsyniad ar Ynys Môn.

“Mae hwn yn gyfle prin i greu cyrchfan hamdden flaenllaw yn un o leoliadau arfordirol mwyaf poblogaidd y DU, gan gyfuno maint, harddwch naturiol, a galw cryf yn y farchnad.

“Cynigir y cyfle i'w werthu yn ei gyfanrwydd neu mewn parseli diffiniedig sy'n cyd-fynd â pherchnogaeth y teitl.”

Mewn adroddiad gan y gweinyddwyr CG&Co ac Edward Avery-Gee a gyhoeddwyd gan Dŷ'r Cwmnïau ar 2 Rhagfyr, maen nhw’n dweud eu bod nhw am wneud cais i ymestyn y caniatâd cynllunio ar y safle.

Roedd y gweinyddwyr a Lambert Smith Hampton eisoes wedi cwrdd â Chyngor Ynys Môn i drafod y cais, medden nhw.

Mae gwrthwynebiad chwyrn wedi bod i'r cynllun i adeiladu ar Barc Penrhos yn lleol dros nifer o flynyddoedd.

Roedd rhai trigolion yn pryderu y bydden nhw'n colli mynediad i'r parc sydd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Image
Tudalen o hysbyseb safle Parc Penrhos
Tudalen o hysbyseb safle Parc Penrhos

'Twyll eang'

Ym mis Chwefror y llynedd fe gyhoeddodd Heddlu'r Met yn Llundain fod pedwar o bobl wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad i "dwyll eang" honedig yn gysylltiedig â The Seventy Ninth Group.

Dywedodd swyddogion eu bod wedi meddiannu "swm mawr" o arian parod, arfau, oriawr ddrud a gemwaith yn dilyn cyrchoedd mewn pum eiddo gwahanol.

Roedd y twyll honedig yn ymwneud â'r cwmni'n cynnig enillion uchel i fuddsoddwyr ar eu benthyciadau.

Cafodd y pedwar oedd wedi eu harestio eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe wnaeth The Seventy Ninth Group "wadu'n bendant" eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

'Tryloywder'

Dywedodd Hilary Paterson-Jones o Achub Parc Arfordirol Penrhos, bod y safle yn "iard gefn i ni, yn hafan i fywyd gwyllt, ac yn gonglfaen i hunaniaeth ein hynys".

"Mae cenedlaethau o drigolion wedi mwynhau mynediad a hynny am ddim," meddai.

Dywedodd bod cwymp The Seventy Ninth Group yn codi cwestiynau am ddewis perchnogion blaenorol y safle.

“O ystyried yr hanes, rhaid inni ofyn a allwn ni ymddiried mewn datblygwyr newydd i gyflawni addewidion heb aberthu ein tirwedd?” gofynnodd.

“Rydym yn mynnu tryloywder llawn gan Gyngor Ynys Môn a'r gweinyddwyr CG&Co: rhaid iddyn nhw rannu manylion y gwerthiant, darpar brynwyr, ac unrhyw gynigion cynllunio diwygiedig. 

“Nid oes lle i gytundebau cyfrinachol yn nyfodol ein cymuned.

“Er ein bod yn cefnogi twf economaidd, rydym yn gwrthwynebu unedau gwyliau ar raddfa fawr a fyddai'n lleihau gwerth naturiol y parc. 

“Yn lle hynny, rydym yn galw am berchnogaeth gymunedol, cadwraeth gynaliadwy, neu eco-dwristiaeth effaith isel – a fyddai yn rhoi pobl a natur yn gyntaf.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.