Porthmadog: Dyn wedi'i wahardd rhag chwarae a gwylio pêl-droed wedi ymosodiad honedig
Mae dyn 35 oed wedi'i wahardd rhag gwylio a chwarae gemau pêl-droed wedi ymosodiad honedig mewn gêm bêl-droed ym Mhorthmadog.
Mewn datganiad nos Fawrth dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) bod y penderfyniad wedi'i wneud i wahardd Thomas Taylor wedi ymchwiliad.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig yn ystod gêm yng Nghynghrair Gogledd Orllewin Cymru rhwng Porthmadog a Bae Trearddur ar ddydd Sadwrn 17 Ionawr.
Dywedodd CBDC: "Yn dilyn ymchwiliad gan gadeirydd annibynnol, mae penderfyniad wedi ei wneud i wahardd Thomas Taylor o bob gweithgaredd pêl-droed dros dro, sydd yn dod i effaith yn syth.
"Mae gwaharddiad o bob un gweithgaredd pêl-droed yn atal y chwaraewr rhag mynychu unrhyw gêm bêl-droed dan awdurdodaeth CBDC, cymryd rhan mewn unrhyw gêm bêl-droed dan awdurdodaeth CBDC, mynychu neu gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau hyfforddi sy'n gysylltiedig ag unrhyw glwb dan awdurdodaeth CBDC neu gyflawni unrhyw ddyletswyddau gweinyddol sy'n gysylltiedig â phêl-droed neu glwb pêl-droed."
Ychwanegodd CBDC bod gan Thomas Taylor tan 4 Chwefror i ymateb.
'Cyfergyd'
Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, mae'n ymddangos fel petai un o chwaraewyr Bae Trearddur yn defnyddio'i benelin i daro wyneb chwaraewr Porthmadog yn ystod y gêm ar 17 Ionawr.
Fe ddioddefodd chwaraewr Porthmadog, Danny Brookwell gyfergyd o ganlyniad i'r ymosodiad honedig a ddigwyddodd wrth i Borthmadog gymryd cic o'r smotyn, meddai'r clwb.
Dywedodd yr heddlu ar 18 Ionawr bod dyn wedi ei arestio wedi adroddiadau am ymosodiad honedig yn ystod y gêm, cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol, wrth i'r heddlu "gael cyngor yn ymwneud â chyhuddiadau".
Dywedodd CPD Bae Trearddur yn ddiweddarach yr un diwrnod eu bod nhw wedi gwahardd chwaraewr o'r enw Tom Taylor o’r clwb mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Rhyddhau'r chwaraewr
Dywedodd clwb CPD Bae Trearddur nos Sul 18 Ionawr: “Yn dilyn cyfarfod cyffredinol eithriadol o bwyllgor y clwb a chwblhau prosesau mewnol y clwb, mae Clwb Pêl-droed Bae Trearddur yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y digwyddiad ar y cae yn erbyn Clwb Pêl-droed Porthmadog.
“Yn dilyn adolygiad mewnol, penderfynwyd rhyddhau'r chwaraewr gwaharddedig dan sylw ar unwaith.
“Nid yw Clwb Pêl-droed Bae Trearddur yn goddef trais o unrhyw fath ac yn cydnabod na ddylai'r digwyddiad fod wedi digwydd.
“Mae'r clwb yn cynnig ei ymddiheuriadau diffuant i'r chwaraewr arall dan sylw, Clwb Pêl-droed Porthmadog, swyddogion y gêm, cefnogwyr, a'r gymuned bêl-droed ehangach.
“Bydd y clwb yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw ymchwiliadau allanol neu brosesau disgyblu ac ni fydd yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd tra bod y materion hyn yn parhau.”
Yn gynharach brynhawn ddydd Sul dywedodd y clwb eu bod nhw wedi gwahardd un o’u chwaraewyr ac wedi ei enwi.
'Siom'
Dywedodd CPD Porthmadog wrth Newyddion S4C eu bod wedi'u "siomi" gyda'r digwyddiad.
"Yn dilyn y digwyddiad yn Y Traeth brynhawn ddydd Sadwrn, sydd wedi cael ei ddogfennu'n dda ar amryw o gyfryngau cymdeithasol, hoffai'r clwb bwysleisio mai ei brif bryder yw lles a diogelwch ein chwaraewr Danny Brookwell.
"Cafodd Danny gyfergyd ac ar ôl triniaeth bu'n rhaid iddo adael y cae chwarae. Ein dealltwriaeth ni yw ei fod yn gwella gartref.
"Hoffai'r clwb fynegi ei siom bod y digwyddiad hwn wedi digwydd o gwbl.
"Bwriad y clwb yw gadael i'r awdurdodau priodol ddelio â'r mater ac ymddiried y bydd y camau cywir yn cael eu gwneud a'n bod ni ddim yn gweld golygfa mor erchyll eto."