'Ffonau symudol ar fai' am gynnydd mewn ymddygiad gwael disgyblion

Hugo Hutchison

Mae pennaeth ysgol yn y de yn dweud bod ffonau symudol ar fai am gynnydd mewn ymddygiad gwael disgyblion.

Dywedodd Hugo Hutchison, prifathro Ysgol Uwchradd Trefynwy bod ymddygiad gwael wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sydd yn cael eu gwahardd.

Wrth siarad mewn pwyllgor yng Nghyngor Sir Fynwy dywedodd y prifathro bod "newid" wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf sydd yn golygu bod plant mor ifanc â phump oed gyda ffonau symudol bellach.

"Mae newid wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf, ar ôl y pandemig ond hefyd yn fwy eang dros y 10 mlynedd diwethaf," meddai.

"Newid mewn ymddygiad sydd yn gysylltiedig â newid mewn cymdeithas fel cyfryngau cymdeithasol a ffonau symudol.

"Mae un mewn pedwar o blant rhwng pump a saith oed gyda ffonau symudol, ac mae plant yn treulio oriau ar gyfryngau cymdeithasol bob dydd."

'Dim ffonau tan blwyddyn 10'

Dywedodd Mr Hutchison bod 34 o ysgolion cynradd ac uwchradd y sir wedi cytuno ar "strategaeth ffonau symudol" sydd yn gofyn i rieni beidio â rhoi ffonau symudol i'w plant tan eu bod yn 14 oed, sef disgyblion oedran blwyddyn 10.

"Rydym yn gadarn yn gofyn i rieni i beidio rhoi ffonau symudol i'w plant tan eu bod ym mlwyddyn 10," meddai.

"Rydym wedi derbyn adborth bositif gan rieni, rhai yn diolch i ni am wneud iddyn nhw deimlo bod nhw ddim ar eu pen eu hunain."

Roedd adroddiad gan Gyngor Sir Fynwy yn awgrymu fod gwaharddiadau disgyblion fesul ysgol yn uwch yn 2024/25 na'r ddwy flynedd flaenorol.

Image
Mae rhai ysgolion eisoes gyda cynlluniau mewn lle ar gyfer defnydd ffonau symudol
Mae rhai ysgolion eisoes gyda chynlluniau mewn lle ar gyfer defnydd ffonau symudol. Llun: PA

Mae'r cyngor yn cofnodi "digwyddiadau", sef gwaharddiad disgybl rhwng un a phum niwrnod, a nifer y diwrnodau ysgol sydd wedi'u colli oherwydd hyn.

Y llynedd roedd y ffigwr yn 3,434.5, sydd yn gynnydd sylweddol o'r 1,317.25 yn 2022/23.

Cafodd 578 o ddisgyblion eu gwahardd am gyfnodau yn Sir Fynwy yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Hefyd roedd cynnydd yn nifer y disgyblion a gafodd eu gwahardd dro ar ôl tro, gyda 59% yn derbyn gwaharddiad mwy nag unwaith.

Gwaharddiadau dros dro

Y rheswm dros y cynnydd sylweddol mewn achosion o ddisgyblion yn cael eu gwahardd fwy nag unwaith yn ôl Mr Hutchison yw bod gwahardd disgyblion dros gyfnod byr yn hytrach na'u gwahardd yn barhaol yn ffordd o "beidio rhoi lan arnyn nhw".

"Efallai ei fod yn rhywbeth bod chi'n ceisio cadw gafael ar y disgybl yn hytrach na rhoi lan arnyn nhw," meddai.

"Efallai 10 mlynedd yn ôl byddai nifer o ysgolion gyda chi a oedd yn anelu at gael dim gwaharddiadau.

"Arweiniodd hynny at guddio gwaharddiadau, neu waharddiadau anghyfreithlon, neu roedd gwaharddiadau goddefol lle nad oedd disgyblion eisiau mynd i'r ysgol gan eu bod yn ofnus."

Ychwanegodd ei fod yn bwysig fod gan ysgolion berthynas dda gyda rhieni, sydd yn cynnwys cyfarfod gyda rhieni pan mae disgyblion yn cael ei gwahardd, a'r ysgol yn cysylltu gyda nhw dros y ffôn yn hytrach na dros e-bost.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.