'Cadw atgof Luna': Mam o Gaerdydd i gyhoeddi llyfr am golli babi yn y Gymraeg
Rhybudd: Gall yr erthygl hon beri gofid. Mae’n ymwneud â marwolaethau babanod.
Mae mam o Gaerdydd a gollodd ferch fach yn dri diwrnod oed wedi ysgrifennu llyfr sy’n egluro colli babi i blant, gyda'r fersiwn Cymraeg yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.
Fe fuodd Luna - merch Philippa a James Atkins - farw yn ei chwsg yn ystod y pandemig yn 2020.
Mae Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod yn gyflwr prin lle mae babi o dan flwydd oed yn marw’n sydyn ac yn annisgwyl yn eu cwsg, heb achos amlwg.
Dywedodd Philippa, sy'n rhedeg ysgol ddrama yn y brifddinas, ei bod wedi beio ei hun am farwolaeth Luna ar y cychwyn.
"Fy unig swydd oedd ei chadw hi’n fyw, ond fe stopiodd ei chalon ac ni allai dim fod wedi newid hynny," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwi’n meddwl mai’r unig ffordd o ryddhau’r cywilydd ydi trwy siarad, ac yna 'da chi’n cyrraedd pwynt lle 'da chi’n cydnabod: na, doedd neb ar fai."
Blynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynodd Philippa ysgrifennu llyfr plant yn seiliedig ar ei phrofiad, gyda’r bwriad o helpu teuluoedd sy'n colli babi.
Mae Skye & Luna yn adrodd y stori o golli babi drwy lygaid ei merch hynaf, Skye, a oedd yn dair oed pan gollodd ei chwaer fach, Luna.
Er na chafodd gyfle i ddod i adnabod ei merch, dywedodd Philippa ei bod yn awyddus i gadw atgof Luna yn fyw.
"Does dim rhaid i mi anghofio'r plentyn yma fel rhywbeth sydd wedi digwydd, does dim rhaid i mi wneud hynny o gwbl," meddai.
"Gall y plentyn yma fod yn rhan o fy nheulu o hyd os mai dyna fy nymuniad – a dyna’r neges dwi eisiau ei chyfleu yn y llyfr."
Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo cymaint o heddwch o’r ffaith bod fy mhlant yn gwybod am Luna."
Er mwyn helpu teuluoedd i egluro colli babi i blant, mae Philippa wedi troi at ddelweddau o fyd natur.
"Yr adegau dwi’n teimlo agosaf at Luna ydi pan dwi ym myd natur, pan dwi’n gweld yr holl hud yn digwydd o fy nghwmpas, fel yr hadau sy’n tyfu’n flodau, neu’r machlud, y sêr, y lleuad," meddai.
"Fy ffordd o gysylltu gyda hi ac ymdopi â’r hyn sydd wedi digwydd ydi fy mod i’n dewis ei gweld hi, ac rwy’n teimlo agosaf ati hi pan dwi'n sylwi ar natur.
"Dwi'n hoffi meddwl bod hynny’n rhywbeth y gall pawb gysylltu ag ef."
Cafodd llyfr Skye & Luna ei gyhoeddi yn y Saesneg ym mis Hydref y llynedd.
Ers hynny, mae Philippa, sy'n dysgu Cymraeg, wedi bod yn cydweithio gyda gwasanaeth Clear Translations i gyfieithu’r llyfr i’r Gymraeg.
Mae'r prosiect, sy'n rhan o fenter Luna's Light Appeal, yn cael ei gefnogi gan gwmni fferyllol Bayer a Phrifysgol Caerdydd.
Mae elusennau colli babi Sands, Tommy's a 2 Wish hefyd yn cefnogi'r llyfr, er mwyn sicrhau ei fod ar gael i deuluoedd sy'n galaru.
Yn ôl Philipa, y bwriad yn y pen draw ydi sicrhau bod y llyfrau ar gael mewn ysgolion ac ysbytai er mwyn annog sgyrsiau agored am golli babi.
"Da ni'n gobeithio defnyddio'r arian 'da ni'n ei godi drwy werthu'r llyfrau i barhau i ledaenu'r neges," meddai.
"A hynny yn y gobaith o barhau i greu pethau hardd i helpu pobl i gofio eu plant trwy ddulliau creadigol."
Os ydy cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael yma.
