Cynllun newydd i ‘ddiwygio’ addysg ôl-16 yng Nghymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau i “ddiwygio” addysg ôl-16 yn y Senedd ddydd Llun.
Os yw’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai holl elfennau addysg ôl-16 gan gynnwys colegau, prifysgolion, addysg oedolion, prentisiaethau a’r chweched dosbarth yn dod o dan un corff, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Daw hyn wrth i'r Llywodraeth ddweud bod rhai trefniadau addysg ôl-16 heb eu newid ers 30 mlynedd.
Ers hynny, mae “cynnydd mawr” wedi bod mewn niferoedd disgyblion a datblygiadau sylweddol ym maes technoleg, yn ogystal ag addysg yn cael ei ddatganoli i Gymru.
Mewn ymateb i’r newidiadau, bydd Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru yn cael ei gyflwyno a Chomisiwn newydd yn cael ei sefydlu yn y Senedd ddydd Llun.
Rôl y Comisiwn byddai monitro, cofrestru a rheoli darparwyr, ac amlinellu’r safonau a ddisgwylir o fewn y sector – gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Drwy sefydlu’r Comisiwn, mae’r bil hwn yn rhoi stiward cenedlaethol newydd i Gymru ym maes addysg drydyddol ac ymchwil, ac yn rhoi lle canolog i fuddiannau dysgwyr.
“Bydd yn edrych ar y system gyfan, gan gefnogi dysgwyr drwy gydol eu bywydau i gael yr wybodaeth a’r sgiliau i lwyddo.
“Bydd yn helpu i sicrhau sefydliadau annibynnol ac amrywiol sy’n cyfrannu’n sylweddol at les a ffyniant cenedlaethol.”
Mae naw dyletswydd strategol wedi eu cyflwyno fel rhan o’r cynllun newydd:
- Hyrwyddo dysgu gydol oes
- Hyrwyddo cyfle cyfartal
- Annog pobl i gymryd rhan mewn addysg drydyddol
- Hyrwyddo gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol ac ymchwil
- Hyrwyddo cydweithio a chydlyniad mewn addysg drydyddol ac ymchwil
- Cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol
- Hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg
- Hyrwyddo cenhadaeth ddinesig
- Hyrwyddo rhagolygon byd-eang.
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles bod y strategaethau a’r Comisiown yn “darparu’r fframwaith strategol hirdymor ar gyfer yr hyn y mae angen i’r sector gwerthfawr ac amrywiol hwn ei gyflawni – wrth i ni adfer, adnewyddu a diwygio.”