COP26: Boris Johnson yn rhybuddio ei bod 'yn unfed awr ar ddeg'
Yn seremoni agoriadol COP26 ddydd Llun, mae'r Prif Weinidog Boris Johnson wedi rhybuddio arweinwyr byd bod y "y cloc yn tician ac mae angen i ni weithredu nawr.”
Ychwanegodd bod yn rhaid i gynhadledd COP26 fod yn "ddechrau'r diwedd" i newid hinsawdd.
Dywedodd yn ei araith mai oed cyfartalog arweinwyr y byd yw 60, gan ychwanegu bod yn rhaid "gweithredu nawr" ar gyfer y bobl sydd heb eu geni eto.
Dywedodd: "Os ydym ni'n methu, wnawn nhw ddim maddau i ni."
Bydd mwy na 200 o arweinwyr byd, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn trafod ac yn penderfynu ar y camau nesaf i daclo newid hinsawdd yn y gynhadledd, a fydd yn para tan 12 Tachwedd.
Mae disgwyl i Mark Drakeford gyrraedd Glasgow ganol prynhawn dydd Llun ar ôl teithio ar dren o Gaerdydd.
Daw hyn ddyddiau ar ôl iddo gyhoeddi cynllun Sero Net Llywodraeth Cymru.
Wrth baratoi ar gyfer cynhadledd COP26, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Mae hwn yn gyfnod cwbl allweddol i ni i gyd.
"Rydyn ni yn dechrau ar ddegawd o weithredu gwirioneddol yng Nghymru. Fel rydyn ni wedi dangos gyda'n cyfraddau ailgylchu sy'n flaengar ar lefel byd, mae gwneud y pethau bychain yn ein bywydau bob dydd yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.
“Ond mae angen i ni wneud llawer mwy yn ystod y 10 mlynedd nesaf nag yr ydym wedi’i wneud yn ystod y 30 diwethaf i gyrraedd ein targed sero net. I gyflawni hyn, mae angen i bawb weithio gyda’i gilydd - mae angen i bawb chwarae eu rhan.
“Yn Glasgow, yng nghynhadledd COP26, byddwn yn dangos bod Cymru yn barod i chwarae ei rhan. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r gynhadledd fel cyfle i ddysgu gan eraill.”
Darllenwch ragor am gynhadledd COP26 fan hyn.
Llun: @BorisJohnson drwy Twitter