Newyddion S4C

Jonny Clayton yn ennill Cyfres Dartiau'r Byd

01/11/2021
Jonny Clayton

Mae’r Cymro, Jonny Clayton, wedi ennill Cyfres Dartiau’r Byd 2021 yn Amsterdam.

Dyma’r pedwerydd tlws iddo ennill eleni.

Daeth y Cymro o Bontyberem, Sir Gaerfyrddin yn fuddugol ar ôl curo Dimitri Van Den Bergh o 11-6 nos Sul.

Mae Clayton eisoes wedi ennill Grand Prix y Byd yn gynharach ym mis Hydref, yn ogystal â'r Uwch Gynghrair a’r Meistri eleni.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Jonny Clayton, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘The Ferret’, “nad oedd geiriau ganddo.”

Dywedodd: “Mae eleni’n mynd yn well ac yn well, mor hapus unwaith eto.

“2021, blwyddyn y ffured.”

Llun: Jonny Clayton drwy Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.