Elfyn Evans yn chweched yn Rali Sardinia wrth iddo anelu i ddod yn bencampwr byd
Mae Elfyn Evans yn cychwyn trydydd diwrnod rali olaf Pencampwriaeth Rali'r Byd yn y chweched safle, wrth iddo anelu i ddal ymlaen at ei fantais yn y tabl cyffredinol a dod yn bencampwr byd am y tro cyntaf.
Mae'r gyrrwr o Ddinas Mawddwy, sydd wedi gorffen yn ail yn y gystadleuaeth ar bump achlysur, yn arwain y bencampwriaeth wrth i'r tymor ddod i ben yn Rali Sardinia yn yr Eidal.
Ar ddechrau'r rali, roedd gan Evans fantais o 17 pwynt dros ei gyd-yrrwr Toyota, Sami Pajari, gydag Oliver Solberg o Sweden 21 pwynt y tu ôl iddo.
Erbyn diwedd y cymalau ddydd Gwener, roedd Evans yn chweched yn nhabl y rali yn Sardinia, un munud ac wyth eiliad y tu ôl i Thierry Neuville yn y safle cyntaf.
Gyda hyd at 35 pwynt ar gael dros y penwythnos, mae Evans, Pajari a Solberg yn parhau yn y ras i ennill Pencampwriaeth y Byd.
Ai dyma'r flwyddyn?
Mae Evans, 37, wedi dod yn agos at ennill pencampwriaeth y byd sawl gwaith yn ystod ei yrfa.
Fe orffennodd yn ail yn 2020, 2021, 2023, 2024 a 2025, ond mae'n cyrraedd rownd olaf tymor 2026 ar frig y tabl.
Mae'r Cymro wedi ennill 13 rali yn ystod ei yrfa ac wedi gorffen ar y podiwm dros 50 o weithiau.
Mae wedi ennill dwy rali hyd yma yn 2026, yn Sweden a Japan, ac fe gyrhaeddodd Sardinia gyda 230 o bwyntiau ar ôl gorffen yn bumed yn Chile fis diwethaf.
Ond nid dyma'r tro cyntaf iddo gyrraedd rownd olaf y tymor gyda mantais yn y bencampwriaeth.
Yn 2020, roedd ganddo fantais o 14 pwynt dros Sébastien Ogier cyn Rali Monza, ond fe lithrodd oddi ar y ffordd mewn amodau anodd ac fe aeth Ogier ymlaen i ennill y teitl.
'Llai diogel nag ar bapur'
Wrth drafod ei sefyllfa y tro hwn, dywedodd Evans fod ganddo ddigon o brofiad i wybod na all gymryd unrhyw beth yn ganiataol.
"Alla i ddim wir fforddio meddwl am y peth," meddai.
"Roedd gen i'r union un fantais dros Seb Ogier yn 2020 cyn Rali Monza.
"Mae gen i ddigon o brofiad i wybod beth na ddylwn i ei wneud. Rydych chi'n gwybod sut ddaeth hynny i ben.
"Dwi'n credu bod y sefyllfa y tro yma yn llawer llai diogel nag mae'n edrych ar bapur."
Bydd uchafbwyntiau Pencampwriaeth Rali'r Byd o Sardinia ar Ralio+ ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 13:00 ddydd Sul, gydag uchafbwyntiau pellach o'r Eidal am 21:35 nos Lun.