‘Dim symptomau o gwbl’: Annog ffermwyr i brofi am ganser y prostad mewn ocsiwn
‘Dim symptomau o gwbl’: Annog ffermwyr i brofi am ganser y prostad mewn ocsiwn
Mae cyfarwyddwr ocsiwn amaethyddol yn Sir Ddinbych yn annog ffermwyr i gael prawf am ganser y prostad, ar ôl iddo gael diagnosis o’r afiechyd heb brofi unrhyw symptomau.
Bydd 30 o ddynion yn cael cynnig prawf gwaed PSA yn Ocsiwn Ffermwyr Rhuthun brynhawn Sadwrn, mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth am ganser y prostad.
Penderfynodd Richard Davies, 69 oed o Landyrnog, gefnogi'r digwyddiad ar ôl cael diagnosis o'r cyflwr ar Noswyl Nadolig y llynedd.
Mae bellach wedi cwblhau triniaeth radiotherapi, ac fe fydd yn parhau i gael pigiadau unwaith y mis am ddwy flynedd.
Ond dywedodd fod y diagnosis wedi bod yn “sioc fawr” iddo ar y cychwyn.
“Doedd gynna' i ddim math o symptomau o gwbl,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Roeddwn i'n mynd bob rhyw bum mlynedd i gael profion pwysau gwaed, colesterol ac yn y blaen, ac roedd PSA yn un ohonyn nhw, a mi ddoth yn ei ôl, ac roedd y PSA yn eitha' uchel.
“Y wers fawr ydy, does dim rhaid bod gennych chi symptomau i fod efo canser y prostad.”
Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin yn y DU erbyn hyn, yn ôl ystadegau newydd a gyhoeddwyd gan Prostate Cancer UK ym mis Ionawr.
Yn ôl ffigyrau'r elusen, cafodd 64,425 o ddynion ddiagnosis yn 2022, o gymharu â 61,640 o achosion o ganser y fron, a oedd yn arfer bod y mwyaf cyffredin.
Ond yn wahanol i ganser y fron, nid oes rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser y prostad ar hyn o bryd.
‘Dyletswydd i godi ymwybyddiaeth’
Ers iddo gael ei ddiagnosis, mae Mr Davies yn dweud ei fod yn “ddyletswydd” arno i godi ymwybyddiaeth ymhlith dynion eraill - yn enwedig ffermwyr.
“Yn fy swydd i o ddydd i ddydd, dwi'n ymgynghorydd amaethyddol efo ffermwyr llaeth yng ngogledd Cymru, felly fydda i’n mynd rownd i weld ffermydd yn ddyddiol,” meddai.
“Dwi'n siarad llawer mwy am y peth ac yn dweud wrth bobl os ydyn nhw'n dros y deugain 'ma, bod nhw angen mynd i gael prawf PSA jyst er mwyn gweld lle maen nhw arni.
“Ac mae yna nifer wedi bod at eu doctoriaid a wedi cael profion, felly mae o'n hanfodol bwysig bod ni’n edrych ar ôl ein hunain a’n teuluoedd, ac yn mynd am y profion 'ma.”
Yn ôl Mr Davies, mae'n “eithriadol o bwysig” bod digwyddiadau profi yn cael eu cynnal mewn mannau sy'n gyfarwydd i ffermwyr.
“Mae'n debyg bod rhai o'r ffarmwrs yn meddwl eu bod nhw'n mynd i ffarmio am byth a ddim isio gwynebu newyddion drwg, 'wrach,” meddai.
“P’un ai ydi o efo’r coesau neu’r cluniau, fysa nhw’n llawer gwell yn cael triniaeth ar y pethau ‘ma, ond mae'n golygu bod isio cymryd amser i ffwrdd o'r busnes a hyn a llall, ac yn gyffredinol dydyn nhw ddim y gorau am fod isio cyfadda' bod angen gwneud rhywbeth.”
Mae'r digwyddiad yn rhan o ymgyrch ehangach sydd wedi'i threfnu gan grŵp ceir The Flying 9s, sy'n cydweithio ag Ymddiriedolaeth Elusennol Graham Fulford i gynnal digwyddiadau profi ar gyfer canser y prostad yng Nghymru a Lloegr.
Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda phrofi 30 o ddynion ym Mhwllheli, cyn symud i Ocsiwn Ffermwyr Rhuthun, lle bydd 30 o ddynion eraill yn cael eu profi.
Er mwyn tynnu sylw at yr ymgyrch, bydd fflyd o geir Porsche o'r clwb, yn ogystal â cheir rali o glybiau moduron lleol, yn rhan o'r digwyddiad.
Bydd y daith yn gorffen yng Nghilgwri yng ngogledd-orllewin Lloegr, lle bydd 30 o ddynion eraill yn cael eu profi.
Hyd yma, mae'r ymgyrch wedi codi bron i £3,000 ar gyfer Grŵp Cymorth Canser y Prostad Gogledd Cymru.
Meithrin perthynas
Yn ystod y mis diwethaf, mae aelodau o'r grŵp wedi bod yn mynd i'r ocsiwn unwaith yr wythnos yn y gobaith o adeiladu perthynas â ffermwyr.
“Mae ffermwyr yn poeni mwy am eu hanifeiliaid nag y maent am eu hiechyd eu hunain, ac mae hynny’n gwbl amlwg,” meddai Neil Ackers, cadeirydd y grŵp.
“Rydym yn ceisio bod yn yr ocsiwn bob cwpl o wythnosau fel eu bod yn dod i arfer â’n gweld ni yno.
“Yr hyn wnaethon ni ei ddarganfod ddydd Mawrth oedd eu bod yn agor i fyny ychydig bach mwy i ni.
“Maen nhw’n dod draw i gael sgwrs, lle ar y dechrau roedden nhw’n ein hosgoi ni fel y pla.
“Ond nawr maen nhw’n dod atom ni, felly rydyn ni’n gobeithio, wrth i amser fynd heibio, y byddan nhw’n dod yn fwy cyfforddus gyda ni.”
Y bwriad yn yr hirdymor, meddai, ydy prynu fan er mwyn codi ymwybyddiaeth mewn cymunedau, a mynd i ffermydd yn uniongyrchol i wneud profion.
'Cerwch am brawf'
Yn y cyfamser, mae Mr Davies yn gobeithio y bydd y digwyddiad ddydd Sadwrn yn llwyddiannus, ac yn arwain at fwy o ddigwyddiadau profi yng nghefn gwlad.
“Y brif neges ydi cerwch am brawf,” meddai.
“Dim ond prawf gwaed ydi o - mae o’n syml, di-boen, ac mi gewch y canlyniadau y diwrnod wedyn.”