'Rhaid i hyn newid': Cyfradd marwolaethau pobl ddigartref yng Nghymru yn uwch na Lloegr
Roedd cynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau ymhlith pobl sy'n profi digartrefedd yng Nghymru yn 2025, yn ôl ystadegau newydd.
Yn ôl amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cafodd 63 o farwolaethau ymhlith pobl digartref yng Nghymru eu cofrestru y llynedd, 12 yn fwy na’r 51 yn 2024.
Dywedodd elusen Shelter Cymru wrth Newyddion S4C fod "rhaid i hyn newid" gan fod "o leiaf un person yn marw bob wythnos wrth brofi trawma digartrefedd" yng Nghymru.
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ffigyrau "trist iawn" a'u bod dros £226 miliwn wedi ei ddynodi ar gyfer cymorth ac atal digartrefedd yn y flwyddyn ariannol hon.
Ar draws Cymru a Lloegr gyda’i gilydd, arhosodd nifer y marwolaethau yn weddol gyson, gyda 974 o farwolaethau amcangyfrifedig wedi’u cofrestru yn 2025 o'i gymharu â 978 y flwyddyn flaenorol.
Ond gyda'r cynnydd ar lefel Gymreig, Cymru bellach sydd â’r gyfradd amcangyfrifedig uchaf o farwolaethau, sef 27.1 am bob miliwn o bobl rhwng 15 a 74 oed.
Y gyfradd ar gyfer Lloegr gyfan oedd 21, gyda’r cyfraddau uchaf ymhlith rhanbarthau Lloegr yn y de-orllewin a’r gogledd-orllewin, y ddau ar 25.5.
Dywedodd Shelter Cymru fod pob un o’r marwolaethau yn “cynrychioli trasiedi ddynol”, gan alw am fwy o weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
“Mae pob un o'r 63 o bobl a fu farw tra'n ddigartref yng Nghymru y llynedd yn cynrychioli trasiedi ddynol. Mae pob un ohonynt hefyd yn tynnu sylw at ein methiant cyfunol i roi diwedd ar yr argyfwng tai yng Nghymru. Ein methiant i sicrhau bod pobl yn gallu dod o hyd i’r cartref diogel, sicr, addas a gwirioneddol fforddiadwy sydd ei angen arnynt.
“Mae’n rhaid i hyn newid. Allwn ni ddim parhau i fyw mewn gwlad lle mae o leiaf un person yn marw bob wythnos wrth brofi trawma digartrefedd.”
Fe wnaeth Shelter Cymru alw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol, mynd i’r afael â chost ac ansicrwydd rhentu’n breifat, a deddfu er mwyn sicrhau hawl i gartref digonol.
Ffigurau 'trist iawn'
Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae'r ffigurau hyn yn drist iawn ac mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi colli anwylyd yn yr amgylchiadau trasig hyn.
“Gall y rhesymau sy'n arwain at ddigartrefedd a chysgu ar y stryd fod yn gymhleth ac mae'r atebion yn ymwneud â mwy na llety yn unig. Mae atal yn parhau i fod ein ffocws i leihau'r llif o bobl sydd angen llety dros dro yn y lle cyntaf.
“Mae cyllid ar gyfer cymorth ac atal digartrefedd bellach dros £226 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae mwy na 18,100 o bobl wedi cael cymorth allan o lety dros dro i lety hirdymor addas.
“Rydym yn benderfynol o gynyddu'r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol dros dymor y Senedd hon, a fydd yn ein galluogi i fynd i'r afael â digartrefedd, cadw pobl allan o lety dros dro anaddas, gwneud tai yn fwy fforddiadwy a rhoi mwy o ddewis i bobl ynghylch ble maen nhw'n byw,” meddai.
Dynion yw'r rhan fwyaf
Ar draws Cymru a Lloegr, dynion oedd yn cyfrif am y mwyafrif helaeth o’r marwolaethau yn 2025, gyda 833, neu 85.5%, yn ddynion, o gymharu â 141 o fenywod.
Damweiniau oedd y grŵp mwyaf o achosion sylfaenol marwolaeth, gan gyfrif am oddeutu 380 o farwolaethau, neu 39% o’r cyfanswm.
Ymhlith y marwolaethau a gafodd eu hadnabod ymhlith pobl rhwng 15 a 74 oed, yr oedran cyfartalog adeg marwolaeth oedd 47.3 ymhlith dynion a 43.2 ymhlith menywod.
Er bod cyfanswm Cymru a Lloegr wedi aros yn weddol sefydlog rhwng 2024 a 2025, mae nifer amcangyfrifedig y marwolaethau wedi cynyddu 77.1% ers 2013, o 550 i 974.