Llanfairfechan: Bachgen fu farw mewn gwrthdrawiad â fan wedi ei enwi'n lleol

Llanfairfechan. Harrison Glynne Jones

Mae bachgen chwech oed fu farw mewn gwrthdrawiad gyda fan yn Llanfairfechan wedi cael ei enwi'n lleol, wrth i gannoedd o bobl gyfrannu at gronfa i helpu ei rieni.

Roedd Harrison Glynne Jones yn "hogyn direidus" oedd yn "llawn cymeriad," yn ôl teyrnged i'r bachgen ar dudalen codi arian ar-lein.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r dref yn Sir Conwy toc wedi 17.00 ddydd Iau yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng fan Ford Transit wen a phlentyn.

Fe gafodd gyrrwr y fan, dyn lleol 39 oed, ei arestio ac mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

Mewn teyrnged, dywedodd sylfaenydd yr apêl ar wefan GoFundMe bod "byd ein teulu wedi newid am byth" pan gafodd y bachgen ei daro gan gerbyd "y tu allan i'w gartref ei hun."

'Dim geiriau'

"Does dim geiriau i ddisgrifio’n iawn y torcalon a’r dinistr emosiynol y mae ei rieni, ei chwiorydd a’n teulu cyfan yn mynd drwyddo," meddai'r neges.

"Ddylai plentyn fyth gael ei dynnu oddi wrth ei deulu mor sydyn, o dan amgylchiadau mor drasig, ac rydyn ni gyd yn cael trafferth dod i delerau â’r golled annirnadwy hon.

"Roedd Harrison yn hogyn direidus, llawn cymeriad, gyda phersonoliaeth a allai oleuo ystafell, ac roedd yn cael ei garu'n fwy ag y mae geiriau'n gallu'i fynegi."

Erbyn nos Wener roedd yr apêl i gefnogi'r teulu'n ariannol wedi derbyn dros 500 o roddion gwerth dros £10,000.

Dywedodd trefnydd y gronfa y byddai'r arian yn helpu rhieni Harrison i "wynebu’r dasg annirnadwy o ffarwelio â’u bachgen bach annwyl" drwy leihau'r baich ariannol o drefnu angladd a gwasanaeth coffa, yn ogystal â thalu am filiau, rhent a bwyd wrth iddyn nhw gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i alaru.

"Bydd unrhyw gyfraniad, waeth pa mor fach, yn gwneud gwahaniaeth ac yn helpu i leddfu rhywfaint o’r baich ariannol ar adeg pan ddylai rhieni Harrison allu canolbwyntio ar alaru am eu mab annwyl," meddai'r neges.

"Diolch o waelod ein calonnau am eich caredigrwydd, eich cefnogaeth a’ch haelioni yn ystod y cyfnod torcalonnus hwn."

'Effaith ddwys'

Mae cymuned Llanfairfechan wedi cael ei hysgwyd gan y golled, gydag eglwys leol yn agor ei drysau ddydd Gwener i roi rhywle i bobl ddod at ei gilydd wedi'r drasiedi.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein meddyliau yn gyntaf ac yn bennaf gyda theulu ac anwyliaid y plentyn ar yr amser hynod anodd yma.

"Rydym yn cydnabod yr effaith ddwys y mae trasiedi fel hon yn ei chael ar y teulu a’r gymuned ehangach.

“Mae ymchwiliad llawn i amgylchiadau’r gwrthdrawiad yn parhau. Rydym yn adnewyddu ein hapêl i unrhyw un a oedd yn yr ardal o amgylch Ffordd Pen y Bryn a Ffordd y Felin tua 17:00 nos Iau ac sydd eto i siarad â ni, i gysylltu cyn gynted â phosib.”

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu a allai fod â lluniau dashcam o'r ardal ar y pryd, i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod O162122.

Llun: GoFundMe

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.