Newyddion S4C

Dyn sydd wedi derbyn pedwar trawsblaniad yn cyhoeddi llyfr i helpu eraill

01/11/2021
S4C

Mae dyn sydd wedi cael pedwar trawsblaniad aren wedi cyhoeddi llyfr i helpu eraill sy’n mynd drwy’r un broses.

Cafodd Chris Simpson, 35, o Wrecsam ei eni yn 28 wythnos oed.

Mae wedi cael pedwar trawsblaniad aren ers iddo fod yn 18 mis oed.

Mae ei lyfr 'Transplants and Fears' yn sôn am ei brofiadau yn y gobaith o helpu pobl eraill sy'n mynd trwy brofiad tebyg.

Dywedodd: "Fy nod ar gyfer y llyfr yw dod â golwg onest, heb ei hidlo, ar y ffordd y mae claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth yn cael ei weld a'i glywed mewn bywyd.

“Gobeithio y bydd cenedlaethau o weithwyr proffesiynol y dyfodol yn ystyried effaith y cyflwr ac effaith eu penderfyniadau a'u gweithredoedd ar unigolion," meddai.

Yn y llyfr, mae Mr Simpson yn egluro: "Rwyf wastad wedi bod yn obeithiol y gallwn roi dealltwriaeth o'r sgîl-effeithiau cudd y mae unigolyn a'u teulu yn eu dioddef wrth fyw gyda chyflwr cronig sy'n newid bywyd.

"Un peth nad oes gen i yw'r hyder ac nid oeddwn yn gwybod ble i ddechrau," dywedodd.

"Wrth weithio gyda Caron, fy ngweithiwr cymdeithasol anhygoel a helpodd fi i adennill fy hyder a chwalu rhwystrau, newidiodd cyfeiriad fy mywyd er gwell."

Derbyniodd Mr Simpson ei drawsblaniad diwethaf pan oedd yn 23, a dechreuodd yr aren fethu ym mis Awst 2020.

Ers hynny, mae Mr Simpson wedi bod yn ymweld ag Uned Arennol Ysbyty Maelor Wrecsam i gael dialysis dair gwaith yr wythnos, sy’n driniaeth puro gwaed a roddir pan nad yw aren yn gweithredu fel y dylai.

Mae bellach yn cael profion i weld a yw'n gydnaws i gael trawsblaniad aren arall.

Dywedodd Dr Stuart Robertson, Neffrolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, sydd wedi bod yn trin Mr Simpson ers blynyddoedd:

"Am dros 30 mlynedd, mae Chris wedi profi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau clefyd yr arennau - o'r trawsblaniad aren llwyddiannus i'w fethiant dilynol a dychwelyd i ddialysis. Drwy gydol yr adeg hon, mae wedi bod yn benderfynol o fyw bywyd mor normal â phosib.

“Y llyfr hwn yw taith emosiynol a gonest dyn ifanc sy'n byw gyda chlefyd yr arennau, rwy'n siŵr y bydd yn help mawr i gleifion eraill, eu perthnasau a'r rhai sy'n gofalu amdanynt i ddeall effaith methiant yr arennau sy'n newid byd, ac yn bwysicach fyth, sut i oroesi hyn."

Mae modd archebu copi o Transplants and Fears drwy  e-bostio: transplantsansfears@outlook.com.

Llun: Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.