Emyn 'mwyaf poblogaidd' Cymru yn cael ei ddatgelu
Emyn 'mwyaf poblogaidd' Cymru yn cael ei ddatgelu
Mae emyn mwyaf poblogaidd Cymru wedi ei datgelu yn dilyn pleidlais gan wylwyr y gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol.
Mewn rhaglen arbennig o’r gyfres nos Sul 31 Hydref, datgelwyd mai emyn Bro Aber gyrhaeddodd y brig.
Derbyniodd S4C mwy na 1,100 o bleidleisiau ar gyfer pôl piniwn Emyn i Gymru 2021.
Dyma'r ail raglen arbennig sy'n rhan o ddathliadau penblwydd y gyfres yn 60 eleni.
Yn y rhaglen, perfformiwyd y deg emyn a gyrhaeddodd y rhestr fer gan gôr o aelodau o bob cwr o Gymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad Owain Arwel Hughes.
Datgelwyd bod emyn In Memoriam yn yr ail safle a daeth dau yn gydradd nawfed yn y bleidlais.
Y canlyniad
1 Bro Aber
2 In Memoriam
3 Gwahoddiad
4 Rhys
5 Arwelfa
6 Tydi a roddaist
7 Ellers
8 Coedmor
9 Dim ond Iesu
Sirioldeb
10 Bryn Myrddin
‘Emyn pwerus’
Mewn ymateb, dywedodd yr arbenigwraig mewn emynau, Delyth Morgans Phillips: “Dyma Emyn cynulleidfaol, un o rai gorau ail hanner yr ugeinfed ganrif.
“Gwaith comisiwn oedd hi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983 ar gyfer cystadleuaeth Cyfansoddi Emyn Dôn.
“Mae’n emyn pwerus, sy’n ein dyrchafu ni ac mae’r dôn a’r geiriau yn cyd-fynd yn berffaith.”
Dywedodd cyflwynydd Dechrau Canu Dechrau Canmol, Huw Edwards: “Mae gan bawb ei hoff emyn, a tasg amhosib a dweud y gwir yw dewis gan bod ni’r Cymry yn gallu rhestru cynifer o Emynau a fyddai’n haeddu bod yn fuddugol.
“Da o beth yw gweld bod Emyn cymharol fodern wedi dod i’r brig," ychwanegodd.
Yn ystod y rhaglen nos Sul, cyhoeddodd y rhaglen gystadleuaeth newydd i gyfansoddi geiriau emyn gyda gwobr o £200.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn rhaglen Gwyl Dewi Dechrau Canu Dechrau Canmol.