
Cyhoeddi cronfa £130 miliwn i fusnesau bach yng Nghymru 'ddim yn ddigon'
Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £130 miliwn ar gyfer busnesau bach yng Nghymru fel rhan o’i gyllideb yr wythnos hon.
Bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei rannu trwy’r Banc Busnes Prydeinig gan gyd-weithio gyda phartneriaid lleol er mwyn helpu busnesau bach i "dyfu a buddsoddi".
Bydd Yr Alban yn derbyn £150 miliwn yn ychwanegol ar gyfer busnesau bach a Gogledd Iwerddon yn derbyn £70 miliwn.
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi dweud nad yw'r gefnogaeth yn ddigonol ar ei ben ei hun.
Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak: “Mae busnesau ar hyd Cymru wedi gwasanaethu ar gyfer cymunedau mewn amgylchiadau anhygoel o brysur yn ystod y pandemig.
“Wrth i ni edrych i’r dyfodol, rydym yn parhau i roi’n ôl i fusnesau bach yng Nghymru i’w helpu i dyfu a llwyddo.”

Mae Federasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru wedi dweud eu bod yn “falch o’r gefnogaeth”.
Dywedodd Pennaeth Polisi Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru, Llyr ap Gareth: “Mae’n arwydd da fod y Canghellor yn cydnabod yr angen i helpu busnesau a sicrhau hyder i annog bobl i fentro i ddechrau busnesau newydd.
"Mae hyn oll yn hollbwysig i sicrhau ein bod yn sicrhau adfer economaidd at y dyfodol ac yn fuddsoddiad call i’w wneud."
Ddim yn 'ddigon'
Ond, ychwanegodd nad yw’r gronfa’n "ddigon" ar ei ben ei hun.
Dywedodd: “Nid yw hyn ynddo’i hun yn ddigon i sicrhau fod yr wythnos yma yn un da i fusnesau llai Cymru.
"Rydym angen i Lywodraeth y DU lleddfu ar y pwysau o costau rhedeg busnes uwch drwy dorri ar drethi busnesau llai," ychwanegodd.
"Er enghraifft, byddai estyniad ar y lwfans cyflogaeth yn helpu lleddfu’r effaith o codi’r Yswiriant Cenedlaethol a chostau codi’r cyflog byw cendelaethol ar fusnesau.’
Ers dechrau’r pandemig, mae Llywodraeth y DU yn dweud iddyn nhw helpu busnesau, gwarchod mwy na 460,000 o swyddi drwy’r cynllun ffyrlo i weithwyr, gwario £173 miliwn ar gefnogaeth i hunan-gyflogwyr a helpu gyda’r cynllun brechu.
Ychwanegodd Llyr ap Gareth: “Rydym yn edrych ymlaen i weld y manylion. Mae’n bwysig fod y broses mor syml a phosib ac ar gael i busnesau ledleld y wlad. Mae’n bwysig sicrhau fod Llywodraethau y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’u gilydd i sicrhau llwyddiant unrhyw gefnogaeth.
-
Cyllideb 2021: Rishi Sunak yn neilltuo bron i £6 biliwn i’r GIG yn Lloegr
-
Y canghellor i godi'r Cyflog Byw Cenedlaethol o £8.91 i £9.50
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd yn gwneud sylw ar unrhyw fater yn ymwneud â chyllideb y Canghellor tan i Rishi Sunak wneud ei gyhoeddiad yn llawn ddydd Mercher.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog Cysgodol dros Gyllid ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Peter Fox AS: “Mae busnesau ar hyd Cymru wedi addasu a darparu ar gyfer cymunedau dan amgylchiadau anodd yn y pandemig.
“Wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i gefnogi busnesau bach yng Nghymru i’w helpu i adfer yn gryfach nag o’r blaen.”
Bydd manylion llawn y gyllideb yn cael eu cyhoeddi gan y Canghellor Rishi Sunak ddydd Mercher.