Cyllideb 2021: Rishi Sunak yn neilltuo bron i £6 biliwn i’r GIG yn Lloegr
Mae disgwyl i Rishi Sunak ddefnyddio bron i £6 biliwn o’r gyllideb i fynd i’r afael ag amseroedd aros y GIG yn Lloegr.
Bydd y Canghellor yn cyhoeddi’r gyllideb yn llawn ddydd Mercher, gyda’r disgwyl iddo roi sylw i amseroedd aros ar gyfer triniaethau a phrofion nad yw mewn argyfwng.
Daw hyn wrth i ffigyrau diweddaraf y GIG yn Lloegr ddatgelu fod bron i chwe miliwn o bobl, y nifer uchaf erioed, yn aros i gychwyn triniaeth mewn ysbyty.
Fe allai’r gwariant ychwanegol yn Lloegr olygu rhagor o arian i Lywodraeth Cymru, ond ni fydd sicrwydd o hynny nes i’r adolygiad gael ei gyhoeddi’n llawn ddydd Mercher.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi amlinellu ei blaenoriaethau i Lywodraeth y DU ar gyfer y cyhoeddiad.
Mewn datganiad yn gynharach fis Medi, dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans AS y dylai’r llywodraeth yn San Steffan “ddarparu hyblygrwydd cyllidebol” wrth iddynt gynllunio ar gyfer adferiad wedi Covid-19.
Darllenwch y stori’n llawn yma.