Newyddion S4C

Y canghellor i godi'r Cyflog Byw Cenedlaethol o £8.91 i £9.50

Sky News 25/10/2021
gweithwyr caffi

Mae disgwyl i'r canghellor gynyddu'r Cyflog Byw Cenedlaethol i £9.50 yn y gyllideb ddydd Mercher.

Yn ôl Sky News, bydd y newid yn gynnydd o'r £8.91 yr awr ar gyfer pobl dros 23 oed. 

Mae'r llywodraeth wedi wynebu pwysau i helpu'r gweithwyr sydd ar gyflogau isel a gweithwyr ifanc sydd wedi'u heffeithio gan y pandemig. 

Cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno gan y grŵp ymgyrchu Sefydliad y Cyflog Byw. 

Mae'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn berthnasol i bawb dros 23 a throsodd, ac yn uwch na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn is na'r Cyflog Byw Cenedlaethol, ac mae holl bron i holl weithwyr yn gymwys amdano.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.