Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif straeon ar fore dydd Mawrth, 13 Hydref.
Menywod yn ystyried gadael eu gwaith o achos effaith y menopôs
Mae dros draean o fenywod gafodd eu holi gan ITV Cymru wedi ystyried rhoi’r gorau i’w gwaith yn sgil symptomau’r menopôs. Yn ôl arolwg gan raglen Y Byd ar Bedwar, mae 60% o fenywod a holwyd yn dweud bod eu symptomau wedi cael effaith negyddol ar eu gwaith. Roedd bron i 50% a ymatebodd yn dweud nad oeddynt wedi’u cefnogi gan y gweithle.
Codi'r rhan fwyaf o gyfyngiadau ymweld yn Ysbyty Llwynhelyg Hwlffordd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd ymweliadau ag Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn ailgychwyn ddydd Mercher. Er hyn, fe fydd ymweliadau i wardiau 10 a 12 yn parhau i fod yn gyfyngedig am y tro. Daw hyn ar ôl i'r bwrdd iechyd gyhoeddi y bydden nhw'n cyfyngu ymweliadau i'r ysbyty ddydd Llun, yn dilyn cynnydd mewn achosion Covid-19 yn yr ysbyty a’r gymuned ehangach.
Cyngor yn rhoi cefnogaeth unfrydol i droi Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc
Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi cefnogaeth unfrydol i benodi Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc yng Nghymru. Cafodd yr alwad ei gyflwyno gan y Cynghorydd Elwyn Edwards, wnaeth hefyd annog y cabinet i archwilio'r cynnig o gynnig diwrnod o wyliau i staff yr awdurdod ar 1 Mawrth. Yn ôl Nation.Cymru, mae Llywodraeth yn San Steffan wedi methu â rhoi pwerau o'u fath i Gymru er i'r Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio'n unfrydol o blaid y galw yn 2000.
Cwrs Cymraeg Duolingo i ddod dan ofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Fe fydd cwrs Cymraeg ar ap ieithoedd poblogaidd yn dod dan ofal corff addysg yng Nghymru. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi partneriaeth gyda’r cwmni Duolingo. Mae’r cwrs, a gafodd ei lansio ym mis Ionawr 2016, wedi denu bron i 1.9 miliwn o ddysgwyr ledled y byd.
Gwledydd am fethu targedau torri allyriadau carbon erbyn 2050, medd asiantaeth
Mae'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol (IEA) wedi rhybuddio y bydd cynlluniau i geisio torri allyriadau carbon byd-eang yn disgyn 60% yn brin o'u targed sero net erbyn 2050. Yn ôl The Guardian, dywedodd cyfarwyddwr gweithredol yr asiantaeth, Fatih Birol, y bu adferiad anghynaladwy o'r pandemig, a bod angen i arweinwyr y byd ddefnyddio'r gynhadledd ar newid hinsawdd, Cop26, er mwyn "gyrru neges glir" gyda chynllun polisi cadarn.
Meddygon yn teimlo 'nad ydyn nhw'n barod' ar gyfer misoedd y gaeaf
Mae meddygon yn credu nad yw'r GIG yn barod ar gyfer misoedd y gaeaf, yn ôl canlyniadau arolwg barn gan Goleg Brenhinol y Meddygon (RCP). Yn ôl Sky News, mae'r arolwg yn dangos bod un o bob tri meddyg yn credu nad yw'r GIG wedi'i baratoi'n ddigonol ar gyfer yr heriau sydd o'u blaenau a bod meddygon hefyd yn teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu paratoi i ddelio â'r pwysau sydd i ddod.