Menywod yn ystyried gadael eu gwaith o achos effaith y menopôs
Mae dros draean o fenywod gafodd eu holi gan ITV Cymru wedi ystyried rhoi’r gorau i’w gwaith yn sgil symptomau’r menopôs.
Yn ôl arolwg gan raglen Y Byd ar Bedwar, mae 60% o fenywod a holwyd yn dweud bod eu symptomau wedi cael effaith negyddol ar eu gwaith. Roedd bron i 50% a ymatebodd yn dweud nad oeddynt wedi’u cefnogi gan y gweithle.
Un sydd wedi rhoi’r gorau i’w swydd yn ddiweddar yw Alwen Watkin, 53, o Ynys Môn. Roedd yn brif athrawes mewn ysgol uwchradd yng Ngwynedd ac wedi bod yn y byd addysg am dros 31 o flynyddoedd.
“Mi oedd y menopôs yn ffactor mawr yn y penderfyniad i roi fyny fy ngyrfa. Doedden i ddim yn teimlo ‘mod i’n gallu perfformio ar fy ngorau.
“Gallwn i fynd wythnosau heb gysgu o gwbl. Byddai tasgau o ni fel arfer yn gwneud yn cymryd hirach i neud. Ac yn sydyn, doeddwn fethu rhoi brawddeg at ei gilydd, ac mi oedd hwnna’n ofnus oherwydd o ni’n meddwl bod fi’n mynd yn wallgof.”
“Does dim dealltwriaeth o beth oedd pobl yn mynd drwy chwaith. Yn y math o broffesiwn o’n i ynddo fo, mi oedd na nifer fawr o ddynion yn y rôl arweinyddiaeth yn yr ysgol.”
Yn ôl Alwen, mae’r tabŵ o gwmpas y pwnc yn dal i fodoli.
“Dydy pobl ddim yn gwybod sut i ddelio efo fo, a dwi meddwl fod ‘na elfen o gywilydd efallai.”
Fel mam brysur, doedd rhoi’r gorau i swydd llawn amser ddim yn benderfyniad hawdd.
“Mae mynd o fod â chyflog sefydlog i sefyllfa lle ma rywun ddim yn dod ag incwm i mewn yn anodd.
“Mae gen i ferch, sy’n 19 oed a mi oedd hi’n bryderus iawn. Roedd hi wedi arfer gydag un fath o fywyd.”
Erbyn hyn, mae Alwen a’i theulu’n sylwi ar yr effaith cadarnhaol o gymryd seibiant.
“O ni’n mynd â hi (y ferch) yn ôl i’r brifysgol yn Aberystwyth ag oedd hi’n dweud “mae’r gwahaniaeth ynddo chi Mam yn anhygoel, dwi di gael mam yn ôl”.
“Ma’ hynny beth braf achos bod bywyd mor fyr ar y ddaear yma.”
Mae pedwar clinig arbenigol ar draws Cymru gyfan.
Er hyn, mae’r rhestr aros i gyrraedd y clinigau hyn yn parhau i fod yn rhy hir, yn ôl arbenigwraig Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Dr Helen Bayliss. Mae hi’n cynnal clinig dair gwaith yr wythnos i fenywod sy’n profi effaith symptomau’r menopôs, yn Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar.
“Mae’r rhestrau aros yn hir, a dyna pham mae angen i ni annog menywod i siarad am y menopôs o ddydd i ddydd.”
“Mae angen i gyflogwyr gael polisiau menopôs mewn lle, ac wrth gwrs, mae angen gwneud yn siwr bod pobl yn gallu cyrraedd y gwasanaethau arbenigol hyn.”
Fe glywodd Y Byd ar Bedwar am bryderon nifer o fenywod am ddiffyg cysondeb yn y gefnogaeth sydd ar gael mewn gweithleoedd ar draws Cymru. Danfonwyd cais rhyddid gwybodaeth i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ofyn os oedd gyda nhw bolisi menopôs mewn lle. Dim ond hanner o’r 20 a ymatebodd oedd â pholisi swyddogol.
Er hyn, mae sawl un wedi datgan bwriad i greu un yn y dyfodol wrth Y Byd ar Bedwar.
Bydd y rhaglen arbennig ar y menopôs yn cael ei darlledu nos Fercher am 20:25 ar S4C.