Cadarnhau achos o ffliw adar yn Llanberis
Mae achos o ffliw adar wedi'i gadarnhau mewn aderyn yn Llanberis yng Ngwynedd.
Mae Cyngor Gwynedd wedi rhybuddio fod yna "achos sylweddol" o'r haint yn effeithio ar adar dŵr ar draws y DU, gydag o leiaf un achos yn ymwneud ag aderyn ar Lyn Padarn.
Mae'r Cyngor wedi gosod sawl nodyn yn yr ardal yn rhybuddio pobl â chŵn i gadw o unrhyw adar sydd yn ymddangos yn sâl neu wedi marw.
Mae'r nodyn yn darllen: "Mae'r risg i bobl yn parhau'n isel, ond gall y feirws gael ei drosglwyddo drwy adar gwyllt heintus neu arwynebau wedi'u halogi,"
Mae nifer o drigolion y pentref wedi mynegi eu pryderon ar y cyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf ar ôl gweld sawl alarch a gŵydd marw yn Llyn Padarn.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Llun eu bod yn "ymwybodol o adroddiadau diweddar am ddau alarch marw" ar y safle.
Fe aeth ymlaen i ddweud bod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnal profion i ddarganfod yr achos.
Er nad oes cadarnhad am achos marwolaeth yr elyrch eto, mae 'na bryder bod y ffliw wedi lledaenu.
Dywedodd Heather Jones, clerc Cyngor Cymuned Llanberis, ei bod yn poeni am ragor o farwolaethau.
"Mae o'n bryder oherwydd 'da ni'n gwybod efo ffliw bod o'n gallu mynd trwy'r adar i gyd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Does 'na ddim ffor' fedrwch chi gadw fo chwaith achos maen nhw'n adar gwyllt, ti methu rhoi nhw mewn sied na ddim byd felly.
"Yn anffodus ella fyddwn ni'n gweld mwy o farwolaethau dros yr wythnosau nesaf."
Yn ôl Ms Jones mae'r adar gwyllt yn rhan o dirwedd Llanberis erbyn hyn.
"Maen nhw wedi cael eu mabwysiadu, maen nhw yna ac ar y llyn - maen nhw'n rhan annatod o'r pentref," meddai.
"Felly dwi'n mawr obeithio nawn ni oresgyn y ffliw 'ma."
Beth yw ffliw adar?
Math o firws yw ffliw adar sy'n effeithio ar ddofednod ac adar gwyllt.
Mae yna nifer o fathau gwahanol o ffliw adar ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn heintio pobl.
Ond mae Defra yn rhybuddio pobl i beidio â chyffwrdd na chasglu cyrff unrhyw adar marw, neu adar sy'n sâl.
Dylai unrhyw un sydd wedi cyffwrdd â baw neu blu adar gwyllt olchi eu dwylo'n drylwyr meddai'r asiantaeth.
Daw ar ôl i achos o ffliw adar gael ei gadarnhau ger Aberdaugleddau yn Sir Benfro'r wythnos ddiwethaf.
Roedd y straen a gafodd ei gofnodi, sef H5N1, yr un math a gafodd ei gadarnhau ger Cynwyd yn Sir Ddinbych ym mis Hydref.