Elfyn Evans yn yr ail safle yn Rali Japan
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn yr ail safle yn Rali Japan ar ddiwedd saith o gymalau ddydd Sadwrn.
Mae Evans yn 6.5 eiliad tu ôl i Sébastien Ogier o Ffrainc gyda chwech o gymalau i ddod dydd Sul i gwblhau’r rali.
Evans oedd yn gyflymaf ar dri o gymalau gydag Ogier, sydd wedi arwain ers bore dydd Gwener, yn gyflymaf mewn chwech.
Mae Evans ar frig tabl Pencampwriaeth y Byd ar hyn o bryd, un safle yn uwch na Ogier, gydag un rali yn weddill yn Saudi Arabia ddiwedd y mis.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1987087701603197149
Llun: X/Elfyn Evans
