Ynys Môn: Cefnogaeth ‘unfrydol’ i ailddatblygu hen ysgol yn westy a lleoliad priodas
Mae hen adeilad ysgol yn Llangefni sy'n cael ei "drysori" gan bobl leol i gael ei drawsnewid yn westy a lleoliad priodas.
Fe wnaeth Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn gymeradwyo cynllun i ailddefnyddio adeilad Canolfan Penrallt yn unfrydol.
Roedd y pwyllgor wedi derbyn cais cynllunio gan Mr Jerry Huppert i ailddatblygu Penrallt yn Llangefni yn westy 13 ystafell “ansawdd uchel” a lleoliad ar gyfer priodasau gyda chapasiti i 200 o bobl.
Dywedodd y swyddog cynllunio Gwen Jones na fyddai'r cynlluniau datblygu yn "cael effaith negyddol" ar yr Ardal Gadwraeth na'r gofeb restredig.
Ychwanegodd mai edrychiad blaen yr ysgol oedd "y rhan bwysicaf o'r adeilad" ac roedd yn "hollbwysig cadw'r nodweddion presennol".
Dywedodd: “Mae’r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon ar fynediad a pharcio, ac ni fydd y cynnig yn effeithio ar y strwythur rhestredig cyfagos.
“Mae’r cynnig yn parchu arddull bensaernïol yr adeilad a bydd yn dod ag adeilad nas defnyddir yn ôl i ddefnydd a fydd yn gyfraniad cadarnhaol at yr ardal a’r Ardal Gadwraeth.”
Wrth gefnogi’r cais, fe wnaeth y Cynghorydd Neville Evans, alw am enw Cymraeg ar y cynllun “sy’n gydnaws â’r ardal”.
“Dydyn ni ddim eisiau gweld rhywbeth fel ‘Y Ritz’ yn dod i Langefni,” meddai.
'Annog ymwelwyr'
Yn wreiddiol yn adeilad i Ysgol Sir Llangefni, cafodd Penrallt ei godi yn y 1900au cynnar, cyn iddo gael ei ddefnyddio'n ddiweddarach fel campws i fyfyrwyr Coleg Menai.
Mae’r safle, sydd hefyd yn cynnwys cofgolofn restredig gradd II i goffáu cyn-disgyblion yr ysgol fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bellach wedi bod yn wag ers rhai degawdau.
Mae datblygwyr yn gobeithio adnewyddu'r safle ac yn dweud y byddai’r gwesty newydd yn creu hyd at 20 o swyddi, gan gynnwys 14 swydd lawn amser, pe byddai’n cael ei ganiatáu.
Wrth amlinellu’r cais, dywedodd yr ymgeisydd yn y datganiad cynllunio, drwy’r asiant Arwel Thomas: “Mae’r datblygiad wedi’i gynllunio er mwyn cynnal cyfoeth cymeriad hanesyddol y safle gan ddenu gweithgaredd economaidd a chymdeithasol i galon Llangefni gyda thwristiaeth, ailddatblygiad sy’n cynnal treftadaeth, ac ymgysyllted â busnesau lleol.
Wrth drafod dylanwad posib y cynllun ar yr economi leol, dywedodd y datblygwyr y bydd contractwyr lleol yn cael eu defnyddio i gwblhau’r gwaith, tra y byddai cwmnïau arlwyo a chynhyrchwyr lleol yn darparu bwyd a diod i’r lleoliad.
Byddai hefyd yn annog ymwelwyr i ddefnyddio cyfleusterau canolfan hamdden Plas Arthur sydd gerllaw'r safle.