'Tipyn o Sgram': Cwmni arlwyo teledu yn ail-becynnu bwyd ar gyfer trigolion ardal 'Sgubor Goch
Mae cwmni sy'n arbenigo mewn darparu bwyd ar gyfer criwiau teledu wedi cymryd y cyfle yn ystod cyfnod o ffilmio cyfres ddrama i S4C yng Nghaernarfon, i ail-becynnu bwyd oedd dros ben ar ddiwedd y dydd, ar gyfer teuluoedd sy'n byw yn un o stadau tai mwya’r dref.
Fe ddaeth y syniad, wedi i ofalwraig canolfan gymunedol oedd yn cael ei defnyddio gan y cwmni teledu oedd yn ffilmio'r gyfres ddiweddara o Stad (dilyniant i'r gyfres wreiddiol Tipyn o Stad), sylweddoli fod bwydydd oedd yn cael ei baratoi ar gyfer y cast a'r criw, yn aml yn mynd yn wastraff ar ddiwedd y dydd.
Leean Roberts ydi gofalwraig a glanhawraig canolfan Noddfa ar stad dai cyngor Ysgubor Goch, ac mae Leean hefyd yn byw ar y stad, lle mae nifer o olygfeydd y gyfres wedi’u ffilmio.
Fe sylweddolodd Leean y byddai rhai o deuluoedd y stad, yn falch iawn o gael cynnig y bwyd, felly fe ddechreuodd ail-becynnu'r bwydydd amrywiol am weddill y cyfnod ffilmio.
Wrth siarad â Newyddion S4C, fe ddywedodd Mererid Mair, sy'n weithiwr cymunedol yn y ganolfan fod y cynllun "wedi bod yn help mawr i bobl" y stad, a hynny mewn cyfnod "pan mae'r esgid yn gwasgu."
"Roedd pobl wir yn gwerthfawrogi, roedd Tipyn o Stad yn ffilmio yn yr ardal ac yn defnyddio Noddfa fel canolfan, felly roedd y criw a'r actorion yn cael bwyd yma, ac roedd 'na lot o fynd a dŵad.
"Roedd Leean [gofalwraig Noddfa] yn gorfod gweithio'n dipyn cletach er mwyn darparu ar gyfer y criw, fe wnaeth hi sylweddoli weithia fod 'na dipyn o fwyd dros ben, ac roedd y criw yn ymwybodol fod 'na lot o fwyd, wedyn rhwng Leean a'r criw fe ddechreuon nhw rannu' bwyd ar y diwrnod, gan nad oedd modd i'r cwmni arlwyo gadw'r bwyd.
"Mae ganddo ni fel canolfan lot o gysylltiadau yn yr ardal, felly roedd Leean yn trefnu wedyn fod y bwyd yn mynd i gartrefi, fel bod dim yn wastraff.
"Roedd 'na gymaint o fwyd, gan fod y criw yn cael brecwast, cinio, tê a snacks.
"Roedd 'na bob math o fwydydd o frechdanau neu croissants i brydau poeth ffresh a blasus yn mynd allan i deuluoedd yma, felly roedd yn gynllun a weithiodd allan yn dda i bawb.
"Roedd pobl wir yn gwerthfawrogi," ychwanegodd Mererid.
Dywedodd Leean Roberts iddi sylweddoli un dydd ar ddechrau'r cyfnod ffilmio, fod yr holl fwyd oedd dros ben ar ddiwedd y dydd yn cael ei daflu i'r bin, wedyn ar ôl gweld hynny, fe ddaeth y syniad iddi.
"Mae’r cost of living yn broblam yma. O’n i’n gwbod am rai oedd yn gwerthfawrogi cael y bwyd ma" meddai Leean wrth Newyddion S4C.
"Bob math o bethau, bwyd oer, cynnes, pwdins, ffrwythau, crisps, chocled, be bynnag oedd gynnyn nhw roedd pawb wrth eu bodda.
"Dwi’n nabod gymaint ar y stad, gan bo fi’n byw yn Cae’r Saint fy hun, ac o’n i jest yn mynd a'r bwyd draw i bobl oedd isho fo."
Fe ychwanegodd Leean ei bod wedi mwynhau'r profiad o gael criw teledu yn saethu'r golygfeydd ar yr ystad, a bod y gymuned yn croesawu "rywbeth mor bositif" i ddod yno, gan fod y cyfresi gwreiddiol wedi dod i ben yn 2008.
"Odd o’n amazing cael y criw yn ffilmio yma. Odd pawb sy'n byw yma yn mynd i cefna’ nhw’i hunain i watchad y criw yn ffilmio.
"Odd o jest yn neis bod pawb ar y stad yn siarad amdanyn nhw. Odd na dipyn go lew o’r stad yn ecstras arno fo. Odd o’n neis, gathon ni lot o hwyl efo’r criw."
