‘Y galw’n parhau i dyfu’: Tîm achub mynydd yn ymateb i fwy o alwadau
Mae un o dimau achub mynydd prysuraf Cymru yn dweud bod y galw am eu gwasanaethau yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn.
Dywedodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu bod nhw wedi cyrraedd 300 o alwadau erbyn diwedd Hydref eleni a hynny fis yn gynt na’r llynedd.
Dywedodd y tîm eu bod nhw’n cyrraedd y nifer hynny o alwadau erbyn diwedd mis Tachwedd fel arfer.
Cafodd y gwirfoddolwyr sydd yn cynnig eu hamser a'u gwasanaeth i'r tîm eu galw allan 33 o weithiau yn ystod mis Hydref gan bobl oedd wedi mynd i drafferthion ym mynyddoedd Eryri gyda’r tîm cyfan yn ymateb mewn 18 ohonyn nhw.
Roedd nifer o achosion achub y mis hwn yn ymwneud â phenderfyniadau gwael a wnaed, newidiadau sydyn yn y tywydd, a diffyg profiad, meddai’r tîm.
Dywedodd llefarydd ar ran y tîm: “Er mwyn rhoi hynny mewn cyd-destun, wnaethon ni ddim cyrraedd 300 tan fis Tachwedd y llynedd, sy’n dangos cymaint mae’r galw’n parhau i dyfu blwyddyn ar flwyddyn.
“Ein dyddiadau prysuraf oedd dyddiau Sadwrn, gyda’r rhan fwyaf o alwadau achub yn digwydd ar Lwybr Llanberis.
“Roedd rhai o’r digwyddiadau y gwnaethom eu mynychu yn cynnwys:
• Pedwar cerddwr yn sownd ar Grib Goch
• Pedwar cerddwr ddim yn gallu dod i lawr oddi ar yr Wyddfa oherwydd tywydd gwael
• Cerddwr gydag arddwrn wedi torri o bosib ar Lwybr Llanberis
• Pedwar cerddwr yn sownd ar Lwybr Watkin
Ychwanegodd y tîm eu bod nhw am “i bawb fwynhau’r mynyddoedd yn ddiogel a dychwelyd adref heb unrhyw drafferthion" ac yn cynghori pobl i gymryd y camau canlynol os yn bwriadu treulio diwrnod yn y mynyddoedd:
- Gwiriwch ragolygon y tywydd cyn cychwyn
- Cariwch yr offer cywir ar gyfer amgylchiadau a allai newid
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’ch llwybr – a beth yw eich gallu
- Trowch yn ôl os yw’r tywydd neu welededd yn gwaethygu
- Cofiwch am eich tortsh ar eich pen – mae’r dyddiau’n fyrrach erbyn hyn nawr mae’r clociau wedi eu troi yn ôl
Mae’r tîm wedi diolch i’w gwirfoddolwyr ac i’w hasiantaethau partner sydd wedi eu cefnogi drwy gydol “mis heriol arall”.
Llun: Tîm Achub Mynydd Llanberis
