Disgwyl newidiadau mawr i system mewnfudo'r DU
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, gyhoeddi newidiadau mawr i reolau mewnfudo’r Deyrnas Unedig.
Yn ôl adroddiadau gan y BBC, mae’r llywodraeth yn bwriadu mabwysiadu rheolau sy’n debyg i system Denmarc dros reoli ffiniau ac ymfudo.
Ymhlith y mesurau y mae’r Llywodraeth yn edrych arnynt mae rheolau tynnach ar ddod â theuluoedd yn ôl at ei gilydd a chyfyngiadau ar aros dros dro i rai ffoaduriaid.
Fe wnaeth Ms Mahmood anfon swyddogion i Ddenmarc y mis diwethaf i astudio polisïau’r wlad – polisïau sy’n cael eu hystyried ymhlith y rhai llymaf yn Ewrop.
Mae disgwyl i’r newidiadau gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn.
Daw’r datblygiad ar ôl cyfnod anodd i’r Llywodraeth, gyda nifer y bobl sy’n croesi’r Sianel mewn cychod bach wedi cynyddu, ac achos diweddar lle daeth mewnfudwr o Iran, a gafodd ei ddychwelyd i Ffrainc, yn ôl i’r wlad ychydig wythnosau’n ddiweddarach.
Cafodd y Llywodraeth ei chyhuddo o fod “mewn anrhefn lwyr” yn dilyn ail ymgais y dyn i gyrraedd y wlad. Mewn ymateb, fe ddywedodd y Llywodraeth bod y dyn wedi’i ganfod ar unwaith a bod hynny yn “dystiolaeth fod y system yn gweithio”.
Dywedodd Ms Mahmood ei bod am roi mesurau ar waith i rwystro pobl rhag ceisio cyrraedd Prydain trwy lwybrau sydd heb eu hawdurdodi, a gwneud yn haws i ddanfon yn ôl yr unigolion nad oes ganddynt hawl i aros yn y wlad.
Dywedodd Gareth Snell AS fod unrhyw newid a all ddod â “thegwch” i system lloches “yn werth ei ystyried”, gan ychwanegu nad oedd ei etholwyr yn ymddiried ynddi.
“Mae’n werth edrych ar yr arferion gorau gan bleidiau ar draws y byd, lle mae atebion ymarferol wedi’u darganfod ar gyfer rheoli mewnfudo,” meddai.
Ond fe ddywedodd Nadia Whittome AS, sydd yn aelod o Grŵp Ymgyrchu Sosialaeth, bod y system o Ddenmarc yn un syn berthyn i’r “asgell-dde eithafol”.
Llun: PA
