Cyngor yn rhoi cefnogaeth unfrydol i droi Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc
Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi cefnogaeth unfrydol i benodi Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc yng Nghymru.
Cafodd yr alwad ei gyflwyno gan y Cynghorydd Elwyn Edwards, wnaeth hefyd annog y cabinet i archwilio'r cynnig o gynnig diwrnod o wyliau i staff yr awdurdod ar 1 Mawrth.
Yn ôl Nation.Cymru, mae Llywodraeth yn San Steffan wedi methu â rhoi pwerau o'u fath i Gymru er i'r Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio'n unfrydol o blaid y galw yn 2000.
Yn 2014, fe adroddwyd bod y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru i geisio deddfu diwrnod cenedlaethol Cymru yn ŵyl y banc ond gwrthodwyd.
“Nid yw’n gwneud synnwyr o gwbl nad oes gennym ni, fel gwlad, y pŵer i ddewis dyddiau o bwysigrwydd cenedlaethol i nodi ein hanes, treftadaeth ac iaith ein hunain,” meddai’r Cynghorydd Edwards, sy'n cynrychioli ward Llandderfel.
Yn dilyn y bleidlais, fe fydd y Cyngor nawr yn anfon llythyr at Lywodraeth San Steffan yn galw am ddatganoli'r pwerau i greu gwyliau banc i Gymru trwy'r Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971, sydd eisoes wedi cael eu defnyddio ar gyfer gwyliau banc yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Cynulliad Cenedlaethol Cymru