Newyddion S4C

Cwrs Cymraeg Duolingo i ddod dan ofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

13/10/2021
pobl ar eu ffons

Fe fydd cwrs Cymraeg ar ap ieithoedd poblogaidd yn dod dan ofal corff addysg yng Nghymru.

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi partneriaeth gyda’r cwmni Duolingo.

Mae’r cwrs, a gafodd ei lansio ym mis Ionawr 2016, wedi denu bron i 1.9 miliwn o ddysgwyr ledled y byd.

Mae Adroddiad Iaith Duolingo 2020 yn awgrymu mai Cymraeg yw’r iaith sy’n tyfu gyflymaf ar yr ap ym Mhrydain, gyda chynnydd o 44% ers 2019.

Ers ei lansio, mae cwrs Cymraeg yr ap wedi ei gynnal gan griw o wirfoddolwyr dan arweiniad y tiwtor Richard Morse.

Mae’r datblygid yn dynodi newid trywydd i gynllun model Duolingo wrth iddyn nhw symud tuag at strwythur o gynnal rhai cyrsiau yn fewnol a darparu cyrsiau eraill drwy gydweithio â phartneriaid allanol.

Ar hyn o bryd, mae 476,000 o ddysgwyr y Gymraeg yn ddefnyddwyr gweithredol o’r ap.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles:

“Mae llwyddiant y cwrs Cymraeg ar Duolingo yn dangos bod galw go iawn i ddysgu’r iaith – dyma newyddion ardderchog wrth i ni weithio tuag at wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”.

Ychwanegodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Hoffai’r Ganolfan Genedlaethol dalu teyrnged i’r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio ar gwrs Cymraeg Duolingo – dan ni’n edrych ymlaen at barhau â’u gwaith da ac at groesawu a chefnogi hyd yn oed yn fwy o ddysgwyr Cymraeg”.

Fe fydd Adran Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Genedlaethol yn cymryd yr awenau o fis Hydref 2021.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.