Gwledydd am fethu targedau torri allyriadau carbon erbyn 2050, medd asiantaeth
Mae'r Asiantaeth Ynni Rhyngwladol (IEA) wedi rhybuddio y bydd cynlluniau i geisio torri allyriadau carbon byd-eang yn disgyn 60% yn brin o'u targed sero net erbyn 2050.
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol yr asiantaeth, Fatih Birol, y bu adferiad anghynaladwy o'r pandemig, a bod angen i arweinwyr y byd ddefnyddio'r gynhadledd ar newid hinsawdd, Cop26, er mwyn "gyrru neges glir" gyda chynllun polisi cadarn.
Yn ôl The Guardian, mae adroddiad blynyddol yr IEA, sydd wedi cael ei gyflwyno i arweinwyr y byd fydd yn mynychu'r gynhadledd yng Nglasgow ddiwedd mis Hydref eleni, yn darogan y bydd allyriadau carbon yn gostwng 40% yn unig erbyn canol y ganrif os bydd gwledydd yn cadw at eu haddewidion newid hinsawdd.
Dywedodd y sefydliad fod angen newid cynlluniau presennol yn "gyfan gwbl" er mwyn cyrraedd targed net sero, sydd yn golygu y bydd angen buddsoddi $4tn (£2.94tn) dros y ddegawd nesaf i gyflawni'r nod.
Darllenwch y stori'n llawn yma.